Awgrymiadau Nadolig diwastraff
Mae Brendan Hardiman, cynghorydd adnoddau dŵr ar gyfer CNC, yn cynllunio ar gyfer Nadolig di-wastraff eleni. Yma mae'n sôn am rai o'i resymau wrth wraidd y penderfyniad, a'r pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i leihau ein gwastraff - ac arbed rhywfaint o arian!
Mae’r adeg honno wedi cyrraedd eto lle mae meddyliau’n troi at anrhegion a miri’r ŵyl.
Ond eleni, yn wyneb yr argyfwng parhaus o ran ynni a chostau byw yn ogystal â meddwl am beth allwn ni ei wneud i helpu gydag argyfwng yr hinsawdd, ydy hi'n bryd meddwl ychydig yn wahanol am y Nadolig?
Efallai eleni y gallwn ni wneud newid a fydd yn helpu i gadw rhywfaint o arian yn ein poced yn ogystal â rhoi budd i'r amgylchedd drwy geisio cael Nadolig di-wastraff...
“Ond mae hynny’n swnio’n anodd!!” yw eich cri, ond ydy hynny’n wir?
Gadewch i ni edrych ar wastraff plastig. Bydd unrhyw un sydd â phlant bach yn gwybod yn iawn ein bod yn cael lluwchfeydd o hysbysebion ar gyfer teganau plastig wedi’u marchnata ar gyfer difyrru ein plant yr adeg yma o’r flwyddyn, ond mae gwastraff plastig yn broblem fawr i'n hamgylchedd.
Mae astudiaethau UNESCO wedi dangos mai gwastraff plastig yw tua 80% o'r holl sbwriel morol, gan aros yn gyfan a llygru am ddegawdau gan nad yw plastig yn dirywio ond yn hytrach yn troi'n ficroblastig. Mae hyn yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ac mae’r canlyniadau yn dal i fod yn ansicr.
Wrth i'n hafonydd dŵr croyw lifo i'n moroedd a'n hamgylchedd morol, nid yw'n syndod canfod mai ein hafonydd yw rhai o brif ffynonellau sbwriel plastig, yn enwedig microblastigau, y mae llawer ohonynt yn tarddu o'n defnydd o gynhyrchion bob dydd.
Felly beth yw rhai o'r camau allen ni eu cymryd y Nadolig yma i helpu i leihau faint o wastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu?
-
Nid oes modd ailgylchu'r rhan fwyaf o fathau o bapur lapio a thâp gludiog felly ystyriwch fynd yn ôl at ddulliau traddodiadol o ddefnyddio papur brown a chortyn. Nid yn unig y mae'n helpu gyda thorri'n ôl ar fynyddoedd o bapur na ellir ei ailgylchu, ond mae'n ysgogi atgofion cysurlon o Nadoligau’r gorffennol
-
Neu os nad yw papur brown a chortyn at eich chwaeth chi, beth am gadw’r paentiadau a'r darluniau mae eich plant wedi'u gwneud dros y flwyddyn a defnyddio eu celf i lapio anrhegion. Does dim byd yn fwy personol na lapio anrhegion â gwaith crefft arbennig!
-
Oes angen i bopeth fod yn newydd sbon? Mae ein harfer o uwchraddio nwyddau electronig yn gyson wedi arwain at fargeinion gwych mewn llawer o siopau ar ddyfeisiau wedi'u hadnewyddu fel consolau gemau a ffonau
-
Ac mae hyn yn wir ar gyfer anrhegion eraill hefyd - mae siopau elusen, marchnadoedd rhad a llu o siopau ar-lein sy'n cynnig nwyddau ail-law yn ei gwneud hi'n hawdd ailddefnyddio ac arbed rhywfaint o arian parod
-
O ran bwyd a chynhyrchion ar gyfer y cartref, meddyliwch am edrych ar y siopau sy'n cynnig gwasanaethau ail-lenwi - yn hytrach na chael potel blastig arall o chwistrell glanhau, ewch â'ch potel wag i lawr a'i llenwi. Mae'n arbed arian i chi ac yn helpu i leihau gwastraff
Dyma rai o'r ffyrdd y gallwn ni wneud ein rhan i helpu ein planed a'n pocedi. Gadewch inni wneud cyfnod yr ŵyl mor ddi-wastraff ag y bydd fy mhlât cinio Nadolig i eleni!