Afonydd o dan y chwyddwydr

Ein hafonydd yw un o'n hadnoddau naturiol pwysicaf – maent yn darparu dŵr i'w yfed, cartrefi i fywyd gwyllt, lleoedd i fwynhau a chynnal bywoliaeth. Ond mae'r pwysau arnyn nhw yn fawr. Mae newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth sy'n dirywio, a'r ffordd yr rydym yn byw heddiw i gyd yn heriau gwirioneddol i iechyd ein hafonydd.

Ein nod yw gwella a chynnal iechyd ein hafonydd. Rydym am ddiogelu ein hafonydd pwysicaf yn amgylcheddol a sicrhau eu bod yn iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r darlun o gynnydd tuag at ein nod yn gymysg – mae rhai pethau'n well; mae rhai yn waeth, ac mae eraill wedi aros tua'r un peth. Nid yw pob afon a chorff dŵr yn wynebu yr un problemau nac i’r un raddfa.

  • Dangosodd dosbarthiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a gyhoeddwyd gennym y llynedd fod 40% o'r 933 o gyrff dŵr mewn statws da neu well. Mae hyn yn welliant o 3% o'r hyn a adroddwyd yn 2015 a gwelliant o 8% ers 2009.
  • Mae'r dyfroedd ymdrochi o amgylch ein harfordiroedd mewn cyflwr llawer gwell nag yr oeddent ugain mlynedd yn ôl. Yn 2021 roedd 100% yn bodloni neu'n rhagori ar y safon ofynnol am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gyda bron i 75% yn cyrraedd y safon Ardderchog.
  • Fodd bynnag, mae gormod o achosion o lygredd o ddigwyddiadau ac o ffynonellau gwasgaredig ac mae'r ffordd yr ydym i gyd yn byw heddiw yn cael effaith enfawr ar ansawdd y dŵr yn ein hafonydd.

Nid yw'n fater i CNC nac i un sector yn unig. Mae gan bawb rôl i'w chwarae o ran newid ymddygiad. Gyda'n gilydd, mae angen i ni ddatblygu atebion hirdymor ar raddfa dalgylchoedd i gyfrannu at afonydd iach. Mae angen inni ailystyried sut yr ydym yn rheoli maetholion mewn tir amaethyddol a sut yr ydym yn trin gwastraff dŵr, yn ogystal â sut y gallwn sefydlu atebion ymarferol sy'n seiliedig ar natur megis rhaglenni adfer afonydd, a all wella ansawdd a chynefinoedd dŵr ond hefyd lleihau mewnbynnau maetholion.

Fel sefydliad, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu o fewn yr adnoddau a'r pwerau cyfreithiol sydd ar gael i ni i wella ansawdd dŵr.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Disgwyl i'r cwmnïau dŵr leihau llygredd, mynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri'r pryder mwyaf fel gorlifo stormydd, a buddsoddi mewn amgylchedd dŵr gwell: mae'r cwmnïau'n rhoi £30m dros y pum mlynedd nesaf i wneud hynny.
  • Mae tîm o  swyddogion amaethyddol yn cynnal ymweliadau rheoli llygredd ledled Cymru gan gynnig cyngor ac arweiniad i ffermwyr, gan helpu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn lleihau'r risg o lygredd.
  • Bydd dros naw miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi i ddod â phedair afon yng Nghymru mewn cyflwr da drwy'r prosiect 4Rivers4LIFE. Amcangyfrifir y bydd 500km o Afon Teifi, Cleddau, Tywi a Wysg yn cael eu gwella. Mae hyn yn adeiladu ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy ac rydym yn datblygu rhaglen debyg ar gyfer Afon Gwy hefyd.
  • Mae gennym raglen o brosiectau a chyllid grant gwerth dros £20m ar adfer afonydd, pysgodfeydd ac adfer mwynau metel – bydd y rhain i gyd yn helpu i sicrhau gwell ansawdd dŵr.
  • Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol i atal a gwrthdroi difrod i'n hafonydd ac erlyn y llygrwyr mwyaf difrifol.
  • Gweithio gyda phartneriaid ar gamau gweithredu o'n Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd

Gofynnir cwestiynau i ni bob dydd am ein gwaith i ddiogelu afonydd Cymru, ac yma gallwch weld ymatebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru