Myfyrio ar gynnydd ar Ddiwrnod Bywyd Gwyllt y Byd

Ar 3 Mawrth bob blwyddyn, mae Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd y Cenhedloedd Unedig yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth eang o fywyd ar ein planed. Yma yng Nghymru, rydym wedi'n bendithio ag amrywiaeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt ar garreg ein drws.

Mae Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd yn ymwneud â dathlu ein hamgylchedd naturiol a'r gwaith da sy'n cael ei wneud i'w feithrin, ac mae’n amser i ni dynnu sylw at bwysigrwydd bioamrywiaeth i'n cymunedau yng Nghymru.  Mae hefyd yn gyfle i ni ystyried sut y gallwn ddatblygu anghenion meysydd sydd angen cymorth brys hefyd.

Y thema eleni yw "Adfer rhywogaethau allweddol er mwyn adfer ecosystemau".  Gyda'i gilydd, bydd sefydliadau ledled y byd yn tynnu sylw at statws cadwraeth rhai o'r bywyd gwyllt sydd mewn perygl mwyaf difrifol ac yn gyrru trafodaethau tuag at ddychmygu a gweithredu atebion i'w gwarchod.

Er gwaethaf degawdau o waith da i ddiogelu'r amgylchedd, gwyddom fod llawer o'n planhigion a'n hanifeiliaid yn parhau i ddirywio ac rydym bellach mewn Argyfwng Natur.

Ond rydym yn gweithio'n galed i roi sylfeini cryf i wynebu'r argyfwng natur. Bydd yn cymryd amser – ond rydym yn benderfynol o'n huchelgais i warchod amgylchedd Cymru.

Mae gennym lu o brosiectau ar y gweill ac mae llawer ohonynt yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag eraill. Mae LIFE Afon Dyfrdwy, Twyni Byw, Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a'r Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru wedi hen ennill eu plwyf, a chyn bo hir caiff y rhain eu hategu gan Brosiectau 4 Afon LIFE, LIFE Quake a Natur am Byth, gyda buddsoddiad o dros £40 miliwn yn rhai o'n safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf

Ond heddiw hoffwn fanteisio ar y cyfle i siarad am ein rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol gwerth £2.75m a ariennir gan lywodraeth Cymru - Cronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (BERF). Wrth wraidd y rhaglen mae'r nod o gynyddu rheolaeth gadarnhaol ar safleoedd gwarchodedig, gan ganolbwyntio ar reoli tir yn gynaliadwy drwy gytundebau â ffermwyr a gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, cyrff amgylcheddol ac eraill.

Dyma rai o lwyddiannau nodedig y Gronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ail-hadu Moel Morfydd sydd wedi’i ddifrodi gan dân

Gan weithio gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, tirfeddianwyr a phorwyr lleol, mae prosiect adfer ar Foel Morfydd, ger Llangollen, ar y gweill mewn ymateb i dân gwyllt dinistriol yn ystod haf 2018. Bydd y cam nesaf hwn yn golygu hau cymysgedd o hadau glaswellt ar yr ardaloedd sydd wedi'u difrodi waethaf, gyda'r nod o hybu planhigion brodorol i dyfu.

Mae'r llystyfiant ar rai rhannau o'r mynydd wedi dychwelyd yn weddol gyflym ac mae'n galonogol bod gennym bellach yr adnoddau  i atgyweirio'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf.

"Mae Moel Morfydd yn gynefin effeithiol i fywyd gwyllt prin fel y gylfinir a’r grugiar ddu, mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan gerddwyr ac mae'n dir pori hanfodol i ffermwyr lleol.

Llyn Llangors yn dychwelyd i iechyd

Llyn Llangors sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA),  yw'r llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru ac mae'n gartref i rywogaethau cors, mawn a phlanhigion prin ar ei ymylon a nodweddion llystyfiant dyfrllyd a llystyfiant eraill yn y llyn ei hun.

Ond mae problemau wedi bod ynghylch algâu gwyrdd glas a Rhywogaethau Estron Goresgynnol. Ariannodd y Gronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau arolwg drôn o'r llyn a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r holl broblemau.

O'r arolwg, nodwyd mannau lle mae'r rhywogaeth hynod ymledol Jac y Neidiwr wedi'i chuddio, fel y gallwn dargedu i'w hatal rhag effeithio ar y corsydd llawn rywogaethau  sy'n ffinio ag Afon Llynfi.

Mae nifer yr achosion o algâu gwyrdd glas, sy'n gallu bod yn wenwynig i bobl, wedi'i gysylltu â maetholion sy'n cael eu golchi i'r llyn gyda gwaddod o'r tir cyfagos, ac mae eu presenoldeb wedi cyfyngu ar weithgareddau ar y llyn. Mae'r arolwg drôn wedi dangos bod delta o waddol sy'n dod i mewn i'r llyn ar gynnydd.

Mae cyllid ychwanegol wedi arwain at osod trapiau ar Afon Llynfi i leihau faint o waddod o ffermydd âr sy'n cyrraedd y llyn, gan leihau lefelau gwaddodion a maetholion sy'n mynd i mewn i'r llyn.

Pori cadwraethol ar gyfer y gylfinir sy'n nythu yng Nghwm Elan

Mae'r gylfinir yn un o'n hadar bridio mwyaf eiconig, ond yn anffodus mae ar drai. Mae’r Gronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi ariannu ffensio helaeth yn Rhosmeheryn yng nghwm Elan i wella’r cynefin nythu gylfinir.

Bydd y gwaith ffensio, a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yn caniatáu i wartheg addas bori dros ardal o'r Cwm lle bu’r gylfinir yn magu tan yn ddiweddar. Yn anffodus, nid yw nythu wedi'i gofnodi yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

Mae pori gwartheg ar safleoedd bridio gylfinir yn well na phori defaid gan eu bod yn creu cynefin sydd ag uchder llystyfiant amrywiol i ddarparu ystod ddelfrydol o gynefin gorchudd a phorthiant i adar ifanc. Yn ogystal, mae'r tail yn denu mwy o bryfed i'r gylfinir fwydo arnynt.

Mae prosiectau eraill sy’n ymwneud â’r gylfinir wedi derbyn arian hefyd:

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn: Mannau poblogaidd Gylfinir Sir Drefaldwyn

RSPB: Cwm Cefni, Mynydd Hiraethog ac Ysbyty Ifan

Gwlad y Gylfinir: Cwm Camlad yn Sir Drefaldwyn

Cynefinoedd newydd ar gyfer pathewod yng nghoedwigoedd gwarchodedig Sir Fynwy

Mae’r Gronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi ariannu prynu 105 o flychau pathewod i’w gosod yn Harper’s Grove - Lord’s Grove, Croes Robert Wood a’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gaer House Wood yn Sir Fynwy. 

Mae'r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn gynefinoedd coetir pwysig sydd â phoblogaethau pathewod. Mae cymunedau coed llydanddail naturiol ynddyn nhw sy’n cael eu coedlannu yn gyson.

Mae pathewod yn rhywogaeth brin a warchodir sy'n byw mewn cynefinoedd coetir ac sy'n rhywogaethau pwysig o fewn ecosystem y coetir a'r gadwyn fwyd.

Bydd darparu cynefin addas yn hyrwyddo cadw pathewod o fewn y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn cyfrannu at eu rheoli’n llwyddiannus. 

Bydd y blychau'n rhan o'r Cynllun Monitro Pathewod Cenedlaethol sy'n ceisio monitro tueddiadau hirdymor mewn poblogaethau pathewod mewn safleoedd ledled y DU. 

Atebion arloesol ar gyfer rheoli llystyfiant yng Ngheredigion

Defnyddiwyd peiriannau arbenigol i reoli cadwraeth yn y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Winllan a Gilfach Gwyddil yng Ngheredigion.

Mae’r Gronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi ariannu'r defnydd o beiriannau torri gwair robotiaid i fynd i'r afael ag ardaloedd anodd eu cyrraedd (megis ar lethrau creigiog serth) i gael gwared ar brysgwydd a rhedyn.

Yn y gorffennol defnyddiwyd chwynladdwyr mewn ardaloedd nad ydynt yn addas i dractorau, sy'n gallu effeithio ar lystyfiant nad yw'n darged. Mae dulliau arloesol fel torri o bell ar diroedd llethr serth wedi lleihau'r angen am chwynladdwyr gan arwain at ganlyniad rheoli cadwraeth mwy llwyddiannus.

Misglod perlog dwr croyw

Y llynedd, fe brynwyd tir sy'n safle allweddol ar gyfer diogelu'r fisglen berlog dŵr croyw – sydd mewn perygl difrifol yng Nghymru.

Rydym bellach yn gweithio i wella’r amodau ar y safle, er mwyn creu cynefin addas ar gyfer poblogaethau iau sy'n agos at boblogaethau oedolion presennol. Mae'r gwaith yn cynnwys sicrhau bod y gwaddod o amgylch yr afon yn sefydlog fel nad ydynt yn cael eu golchi allan yn ystod llifogydd a'u bod wedi’u didoli'n dda, fel nad ydynt yn cael eu tagu â deunyddiau mwy mân

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru