Byddwch yn gyfrifol a helpwch i ddiogelu natur wrth ymweld ar ŵyl y banc

Mae galwad i ymwelwyr â rhai o safleoedd naturiol mwyaf poblogaidd Cymru warchod a pharchu'r amgylchedd cyn un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i groesawu aelodau'r cyhoedd i'w safleoedd, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.

Mae disgwyl gweld nifer uchel o ymwelwyr dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst, ac mae CNC yn atgoffa pobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad.

Yn ogystal â bod yn gyrchfan boblogaidd, mae Niwbwrch yn dal i fod yn goedwig weithredol ac yn gartref i ystod eang o rywogaethau gwarchodedig.

Dywedodd John Taylor, Arweinydd Tîm ar gyfer safleoedd hamdden yng Ngogledd-orllewin Cymru:

"Mae'r lleoedd arbennig rydyn ni’n gofalu amdanynt yn gyrchfannau delfrydol i bobl ymlacio ac adfywio. Ond mae'n rhaid i ni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau'r awyr agored a'n cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu cymunedau lleol.
"Trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gall pobl ymweld â'n safleoedd gwych yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ddiogel, gan gynnwys Niwbwrch, Parc Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir.
"Rydyn ni'n disgwyl nifer uchel o ymwelwyr y penwythnos yma a gall hyn arwain at dagfeydd a nifer cyfyngedig o lefydd parcio.
"Felly, rydym yn annog pobl i fod â chynllun wrth gefn rhag ofn y bydd cyrchfan yn rhy brysur neu i ystyried ymweld ag un o'n lleoliadau tawelach.
"Mae hefyd yn bwysig i fynd â sbwriel adref, cadw cŵn dan reolaeth i amddiffyn adar sy'n nythu a mathau eraill o fywyd gwyllt, a pheidio cynnau tanau.
"Rydym hefyd am atgoffa ymwelwyr nad oes hawl i unrhyw un aros dros nos ar ein safleoedd.
"Mae mwyafrif llethol y bobl sy'n ymweld â'n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddynt am wneud eu rhan. Gobeithio y bydd hynny'n parhau wrth i ni nesáu at benwythnos gŵyl y banc."

Bydd wardeiniaid yn patrolio yn Niwbwrch dros y penwythnos i ateb unrhyw gwestiynau, i roi cyngor ac arweiniad a sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau.

Gallwch weld y Cod Cefn Gwlad ac Warchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch