Apwyntiadau sesiwn ymgysylltu rhithwir dal ar gael i holi am gyfleuster crynhoi arfaethedig Aber-miwl

Mae apwyntiadau ar gyfer sesiwn ymgysylltu rhithwir yn parhau i fod ar gael i bobl sydd am ofyn cwestiynau cyn ymateb i'r ymgynghoriad ar gais am gyfleuster crynhoi yn Aber-miwl.

Mae swyddogion trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal sesiwn ymgysylltu rithwir ar 27 Hydref er mwyn rhoi cyfle i drigolion ofyn cwestiynau am y cais a rôl CNC a'r broses asesu.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer y Canolbarth:
"Mae adborth gan y gymuned yn bwysig iawn i ymgynghoriadau ar geisiadau trwydded sydd â lefel uchel o ddiddordeb.
"Bydd apwyntiadau'r sesiwn ymgysylltu rhithwir yn galluogi ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl am y cais a'r broses asesu er mwyn sicrhau y gallant roi ymateb gwybodus i'r ymgynghoriad."

Gellir cynnal yr apwyntiadau rhithwir gan ddefnyddio galwad ffôn safonol neu Microsoft Teams. Mae defnyddio Microsoft Teams yn caniatáu galwadau fideo a rhannu sgrin mewn amser real, sydd yn caniatáu i swyddogion rannu delweddau a diagramau gyda phwy bynnag sydd ar yr alwad.

Cynhelir y sesiwn ymgysylltu rhithiol ar 27 Hydref rhwng 1pm a 7pm. Gall pobl archebu slot 20 munud i ofyn cwestiynau a thrafod y cais gyda swyddogion CNC. Bydd slotiau yn cael eu gosod yn seiliedig ar argaeledd rhesymol.

Gellir archebu slot drwy ffonio 0300 065 3000 neu e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gellir gofyn am gopïau papur o'r ymgynghoriad trwy ddefnyddio'r un manylion cyswllt

Lansiodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 12 Hydref a bydd yn dod i ben ar 23 Tachwedd.