Y gwanwyn yw'r amser i ddychwelyd i’r lan

Wrth i fis Mawrth addo dyddiau hirach a thywydd cynhesach, bydd pysgotwyr ym mhob cwr o Gymru yn ymbaratoi i ddychwelyd i lannau'r afon a thaflu lein i ddyfroedd Cymru.

Mae pysgota'n dal i fod yn adloniant poblogaidd yng Nghymru, a thrwydded gwialen gan ddegau o filoedd o bobl o bob oed a gallu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y rhai sydd am fanteisio ar holl fuddion lles pysgota i wneud cais am drwydded gwialen ar-lein, lle bydd gan siaradwyr a dysgwyr Cymraeg bellach y dewis i wneud cais am eu trwydded yn Gymraeg.

Dywedodd Ben Wilson, Prif Ymgynghorydd Pysgodfeydd CNC:

"Mae afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr Cymru'n cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau hamdden i'r hen a'r ifanc eu mwynhau, ac mae'r amrywiaeth o bysgota sydd ar gael yng Nghymru yn ei gwneud yn gamp wirioneddol gynhwysol.
"Mae manteision mynd i bysgota yn helaeth - gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol a chysylltu pobl â'r byd naturiol. Mae ymuno â chlwb pysgota yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd boed i rannu cwch am ddiwrnod ar gronfa ddŵr neu gymryd rhan yn un o'r nifer o gystadlaethau pysgota a gynhelir ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.”

Os ydych yn 13 oed neu'n hŷn bydd angen trwydded gwialen arnoch i bysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru neu Loegr. Mae consesiynau ar gael ar gyfer pysgotwyr hŷn ac anabl.

Defnyddir yr incwm a gynhyrchir gan drwyddedau gwialen i ddiogelu a gwella pysgodfeydd a chyfleusterau i bysgotwyr. Mae pysgota heb drwydded gwialen ddilys yn anghyfreithlon a gallai arwain at euogfarn droseddol a dirwy.

Mae trwyddedau ar gael am 12 mis, 8 Diwrnod ac 1 diwrnod ac o eleni ymlaen mae siaradwyr a dysgwyr Cymraeg bellach yn gallu ymgeisio am eu trwydded yn Gymraeg.

Gellir prynu trwyddedau yn gyflym a didrafferth ar-lein yn "Get a Fishing Licence" ar GOV.UK neu dros y ffôn drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386.

Hefyd, mae gwybodaeth bellach, yn cynnwys manylion llawn sut i brynu trwydded yn ogystal â rheolau am sut, pryd a ble y gallwch chi bysgota yng Nghymru, ar gael ar wefan CNC.

Ychwanegodd Ben:

"Os ydych chi'n newydd i'r gamp neu heb fod yn pysgota ers tro, mae digon o gymorth ac arweiniad ar gael hefyd, popeth o ble i bysgota i ba daclau y bydd eu hangen arnoch i ddechrau arni.
"Mae cannoedd o glybiau pysgota yn y gymuned ledled Cymru yn darparu pysgota o werth da a digon o wybodaeth ar-lein yn rhoi cymorth ac arweiniad i bysgotwyr o bob gallu.
"Am y cyngor gorau ar ble a sut i bysgota, ewch i wefan Pysgota yng Nghymru, sef fishingwales.net, lle cewch bopeth y bydd ei angen arnoch i fynd i bysgota ni waeth ai dechreuwr neu bysgotwr profiadol ydych chi. Caiff gwefan Pysgota yng Nghymru ei hariannu'n rhannol gan incwm trwyddedau gwialen a chyn pen dim hi oedd y safle i fynd iddo ar gyfer pysgotwyr lleol ac ymwelwyr sydd am wybod am gyfleoedd pysgota yng Nghymru.
"Mae wir gennym ormod o ddewis o ran pysgota yng Nghymru, ac mae digonedd ar gael yr adeg yma o'r flwyddyn o'n hafonydd brithyll cynnar a’n dyfroedd llonydd a chronfeydd dŵr pysgod bras, felly does dim amser gwell i fynd allan i bysgota."

Am fwy o wybodaeth am brynu trwydded gwialen ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Chwilio / trwydded gwialen

Am fwy o wybodaeth am bysgota yng Nghymru ewch i Pysgota yng Nghymru | Gwefan pysgota swyddogol Cymru (fishingwales.net)

I roi gwybod am bysgota anghyfreithlon ffoniwch linell gymorth digwyddiadau CNC ar 03000 65 3000.