Gweilch y Pysgod yn dychwelyd i Lyn Clywedog eleni eto

Y ddau gwalch y pysgod ar eu nyth ger Llyn Clywedog

Mae gweilch y pysgod preswyl nyth Llyn Clywedog wedi dychwelyd am dymor yr haf, ar ôl iddynt fudo i Affrica ar gyfer y gaeaf.

Daeth y gwalch benywaidd - a nodwyd fel 5F ac a elwir yn Seren gan ddilynwyr nyth - adref ddydd Sadwrn 25 Mawrth ac yn fuan wedi hynny roedd wedi dal ei brithyll mawr.

Dychwelodd y gwalch gwryw preswyl - sydd heb fodrwy adnabod ond sy'n cael ei adnabod gan ddilynwyr y nyth fel Dylan - ddeuddydd yn ddiweddarach.

Dywedodd John Williams, Cynorthwy-ydd Technegol Rheoli Tir CNC:

"Dydyn ni byth yn gwybod beth fydd natur yn taflu atom, felly rydyn ni wrth ein boddau fod y ddau aderyn preswyl wedi dychwelyd i Lyn Clywedog mewn cyflwr da.

"Bydd y ddau ohonyn nhw'n dechrau adeiladu eu nyth gyda'i gilydd, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd gennym ni rai wyau wedi'u dodwy ar y nyth ymhen ychydig wythnosau."

Mae ffrwd byw o'r nyth ar gael ar YouTube drwy chwilio "Llyn Clywedog Ospreys", neu trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://bit.ly/GweilchClywedogOspreys1

Adeiladwyd y nyth gan staff CNC ar blatfform uchel mewn coeden sbriws sitka yn 2014 ac mae wedi profi'n deorydd cynhyrchiol dros y blynyddoedd, gyda 21 o gywion yn ffoi o'r nyth ac yn mudo ers ei hadeiladu yn 2014.

Adar mudol sy'n gaeafu yn Affrica yw gweilch y pysgod. Mae’n hysbys bod 5F – gwalch breswyl Llyn Clywedog yn treulio'r gaeaf yn y Gambia, Gorllewin Affrica.

Gall gweilch fagu hyd at dri chyw mewn tymor.

Mae Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren sy'n cael ei gynnal gan CNC.