Cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol i helpu madfallod dŵr cribog yn Sir y Fflint

Mae'r boblogaeth leol o fadfallod dŵr cribog mewn chwarel segur yn Sir y Fflint wedi cael yr anrheg Nadolig cynnar perffaith gan fod gwaith ar fin cychwyn i gael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol sy'n prysur feddiannu eu cynefin.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi amlinellu cynlluniau i gael gwared ar gorchwyn Seland Newydd, a elwir hefyd yn wernydd Awstralia (crassula helmsii), o sawl pwll yn Chwarel Pen yr Henblas, sy'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Helygain. Bydd contractwyr yn dechrau ar y gwaith ar 19 Rhagfyr.

Mae corchwyn Seland Newydd yn blanhigyn dyfrol estron goresgynnol sy'n cael effaith ddinistriol ar gynefinoedd a rhywogaethau brodorol. Mae'n lleihau amrywiaeth planhigion mewn pyllau trwy gymryd drosodd a mynd yn drech na rhywogaethau brodorol wrth gystadlu am adnoddau. Yn ogystal â hynny, mae eu dail yn anaddas i fadfallod dŵr cribog ddodwy eu hwyau arnynt.

Mae'n hysbys hefyd bod y planhigyn ymledol yn lleihau gwelededd mewn pyllau ac yn rhwystro madfallod dŵr cribog gwryw wrth iddynt berfformio defod i ddenu madfallod benyw sy'n barod i fridio yn ystod y gwanwyn. Roedd y planhigyn i’w weld yn gyffredin mewn meithrinfeydd a chanolfannau garddio nes iddo gael ei wahardd yn 2014.

Mae madfallod dŵr cribog yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop. Mae'r anifeiliaid a'u hwyau, y safleoedd bridio a'r mannau gorffwys yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Mae colli pyllau bridio yn eu rhoi dan fygythiad ac mae hyn yn digwydd drwy ddirywiad ansawdd dŵr, colli a darnio cynefin daearol a chynnydd mewn chwyn estron goresgynnol.

Daw newyddion am y gwaith pwysig hwn yn ystod wythnos olaf COP15 lle mae arweinwyr y byd wedi dod at ei gilydd i drafod y camau brys sydd eu hangen i adfer a gwella natur yn y DU.

Meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru:

"Rydym yn falch o fod yn dechrau'r gwaith o gael gwared ar y rhywogaeth oresgynnol hon o byllau yn Chwarel Pen yr Henblas yn Sir y Fflint.
"Os na chymerir unrhyw gamau, mae gan gorchwyn Seland Newydd y potensial i gael effaith ddinistriol ar y boblogaeth o fadfallod dŵr cribog.
"Dylai'r gwaith fod o fudd mawr i'r madfallod dŵr cribog a’u hannog i barhau i ddodwy wyau a bridio’n llwyddiannus dros y blynyddoedd nesaf."

Mwy o wybodaeth am fadfallod dŵr cribog yng Nghymru.