Amddiffyn a mwynhau awyr agored mawr Cymru yr haf hwn

Niwbwrch - teulu yn reidio beics trwy'r goedwig

Wrth i gatiau ysgolion gau ac wrth i fwy o bobl cymryd y cyfle i dreulio’u gwyliau yn agosach i gartref, mae Cyngor Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i barhau i amddiffyn a pharchu’r cymunedau a’r lleoliadau cefn gwlad y maent yn gobeithio i’w harchwilio a’u mwynhau yr haf hwn.

Daw’r rhybudd wrth i warchodfeydd natur, Parciau Cenedlaethol, arfordiroedd a safleoedd ymwelwyr awyr agored eraill Cymru gyrraedd brig rhestrau cyrchfannau poblogaidd unwaith eti ar ôl llacio'r cyfyngiadau coronafeirws.

Mae safleoedd CNC eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr ers llacio’r cyfnod cloi ym mis Mawrth. Ac er nad yw'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn gadael unrhyw olion o'u hymweliad, mae rhai safleoedd yn dioddef o ymddygiad ymwelwyr nad ydynt yn dangos fawr ddim ystyriaeth na pharch at yr ardaloedd maen nhw wedi dod i'w mwynhau.

Mae lloriau coedwigoedd wedi troi’n feysydd parcio a safleoedd gwersylla dros dro, ac mae sbwriel wedi ymestyn i ardaloedd ymhell y tu hwnt i finiau ac ardaloedd toiled dynodedig.

Gyda diogelwch ymwelwyr a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos mewn golwg, bydd CNC yn gweithio gyda'r heddlu i gynyddu patrolau ar gyrchfannau mwyaf poblogaidd Cymru i geisio leihau’r risg y bydd y digwyddiadau o’r fath yn digwydd eto dros yr haf.

Dywedodd Richard Owen, Arweinydd Tîm Cynllunio Hamdden Ystadau a Stiwardiaeth Tir CNC:

"Mae llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo, ynghyd â chyfnodau hir o dywydd braf, yn mynd i ysgogi ugeiniau o bobl i roi mannau prydferth enwog Cymru ar frig eu rhestrau o leoedd i fynd iddynt am deithiau undydd ac fel cyrchfannau gwyliau yr haf hwn.
"Er ein bod yn falch iawn o groesawu pobl i'n safleoedd i ymlacio a chael ail wynt, mae'n rhaid i ni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau'r awyr agored a'r cyfrifoldebau sydd gan bob un ohonon ni i warchod natur a pharchu ein cymunedau lleol.
“Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pobl ymweld â'n safleoedd yn ddiogel, a dyna pam y bydd llawer o ymwelwyr â rhai o'n safleoedd mwyaf poblogaidd, fel Gwarchodfa Natur Niwbwrch ar Ynys Môn, Coed y Brenin a Llyn Geirionydd yn gweld cynnydd mewn patrolau o ein wardeiniaid a'r heddlu dros y misoedd nesaf.

“Mae mwyafrif llethol y rhai sy’n ymweld â’n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a, gyda’r haf bellach wedi hen ddechrau, rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth i ni fynd i fewn i ran brysuraf y flwyddyn.”

Un o'r problemau mwyaf cyffredin yng nghefn gwlad Cymru yw effaith tanau gwyllt a gwersylla anghyfreithlon - dyma’r term a ddefnyddir pan fo pobl yn codi pebyll neu’n parcio cartrefi modur a faniau heb ganiatâd y tirfeddiannwr.

Mae’r materion yma ar gynnydd ym mharciau cenedlaethol, yng nghoedwigoedd, ac yng ngwarchodfeydd natur Cymru ers llacio’r cyfyngiadau symud, gan arwain at ddifrod amgylcheddol a phryderon iechyd y cyhoedd.

Gyda'r effeithiau ar fywyd gwyllt a chymunedau yn dal i fod yn bryder mawr y haf hwn,mae CNC yn annog pobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac i ystyried ein chwe cham i ymweld a’n safleodd awyr agored yn ddiogel.

Chwe cham i ddychwelyd yn ddiogel:

Cyn eich ymweliad:

  • Cynlluniwch ymlaen llaw - cadarnhewch beth sydd ar agor ac ar gau cyn dechrau. Paciwch hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb.
  • Ceisiwch osgoi’r torfeydd – dewiswch le tawel i fynd iddo. Gwnewch gynllun wrth gefn rhag ofn bod eich cyrchfan yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd.

Tra byddwch chi yno:

  • Parciwch yn gyfrifol – parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon na rhwystro llwybrau mynediad brys.
  • Dilynwch y canllawiau – cydymffurfiwch ag arwyddion safleoedd a mesurau diogelwch Covid-19 i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
  • Ewch â'ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a'r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad.
  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad – cadwch at lwybrau, gadewch gatiau fel yr oeddent, cadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw cŵn, peidiwch â chynnau tanau

Bydd gwybodaeth bellach am y pethau y gallwch eu disgwyl yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar y dudalen 'Ar Grwydr' ar wefan CNC.

Mae CNC hefyd yn cefnogi ymgyrch Addo Croeso Cymru, sy’n gofyn i bobl Cymru wneud addewid i ofalu am ein gilydd, ein tir a’n cymunedau wrth ddechrau crwydro eu cymunedau lleol unwaith eto. 

Gellir llofnodi'r adduned ar y wefan www.croeso.cymru/cy/addo