Gweithio fel partneriaeth yn helpu i ddiogelu cymunedau a mynd i’r afael â throseddau

Mae gwaith amlasiantaethol wedi bod yn digwydd ym Mhorthladd Caergybi i fynd i’r afael â gweithgareddau anghyfreithlon.

Bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cymryd rhan ym Mhrosiect Punctulate, dan arweiniad Llu’r Ffiniau gyda chymorth  yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Gorfodi Mewnfudo, Plismona Gwrthderfysgaeth, Cyllid a Thollau EM a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Bu swyddogion o’r asiantaethau amrywiol yn monitro traffig i mewn ac allan o’r porthladd ac yn stopio cerbydau.

Mae’r gwaith a gwblhawyd rhwng 12 a 14 Tachwedd yn rhan o ddull amlasiantaethol sy’n targedu symudiad nwyddau anghyfreithlon ar hyd llwybrau Ardaloedd Teithio Cyffredin.

Yn ystod y gwaith, bu CNC yn darparu cyngor ac arweiniad i’r rhai nad oedd yn meddu ar waith papur priodol i gefnogi cludo gwastraff.

Meddai Berwyn Williams, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff ar ran CNC yn ardal Gogledd Orllewin Cymru,

“Bu ein staff yn cymryd rhan yn y gwaith hwn i archwilio cerbydau lle’r oedd amheuaeth o droseddau amgylcheddol, megis cludo cynnyrch gwastraff. Roedd hyn yn ein helpu i gael gwell darlun o’r sefyllfa, gan adnabod ffynonellau a safleoedd cludo gwastraff, ac roedd yn ein galluogi i ddarparu cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n cludo gwastraff fel rhan o’u busnes.
“Yn ogystal â lleihau troseddau amgylcheddol, mae’r gwaith hwn yn rhoi’r cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau gorfodi’r gyfraith yn lleol ac ar lefel y DU, ynghyd â Phorthladd Caergybi i adnabod a mynd i’r afael â throseddu cyfundrefnol.
“Mae hyn yn cynnig buddion o ran casglu gwybodaeth a datblygu arfer da ac yn dangos sut mae nifer o asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd er budd ein cymunedau.”