Mae astudiaeth gan CNC wedi cadarnhau bod gan foroedd Cymru botensial enfawr i wrthbwyso carbon er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

An image showing Cwm Ivy at high tide: a saltmarsh that was the result of managed realignment following a breach in the seawall in North Gower.

Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi datgelu rôl bwysig ein moroedd a'n harfordiroedd o ran gwrthbwyso allyriadau carbon trwy storio symiau mawr o garbon i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae pobl eisoes yn gwybod bod coetiroedd a chynefinoedd mawndir yn gwrthbwyso carbon atmosfferig. Ond, mae astudiaeth newydd CNC yn cadarnhau bod cynefinoedd morol yn bwysig wrth storio “carbon glas”. Yn ôl canfyddiadau’r astudiaeth, mae cyfanswm y carbon sy’n cael ei ddal gan yr amgylchedd morol bob blwyddyn yn cyfateb i allyriadau blynyddol 64,800 o geir neu 115,600 o hediadau o Gaerdydd i'r Ynysoedd Dedwydd ac yn ôl.

Cafuwyd ei bod yn bosibl i gynefinoedd morol, gan gynnwys morfeydd heli a gwelyau morwellt, roi llawer iawn o garbon mewn storfa hirdymor bob blwyddyn. Maen nhw’n storfa mor sylweddol o garbon â choetiroedd a choedwigoedd Cymru. Gyda'r argyfwng hinsawdd yn debygol o achosi effeithiau difrifol a pharhaol ar gymunedau yng Nghymru a thu hwnt, mae astudiaeth CNC yn dangos bod gan gynefinoedd morol gyfraniad mawr i'w wneud wrth leihau nwyon tŷ gwydr, ochr yn ochr â'u rôl gydnabyddedig wrth addasu i effeithiau'r argyfwng hinsawdd.

Meddai Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaethau Morol;

“Mae ein hastudiaeth ar Garbon Glas yng Nghymru wedi dangos canlyniadau cyffrous iawn. Mae'r potensial i garbon glas ein helpu yn y dasg hollbwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn galonogol iawn.
“Rydyn ni eisoes yn gweithio gyda phartneriaid i reoli iechyd a gwytnwch y cynefinoedd carbon glas hyn ledled Cymru ac rydyn ni hefyd yn gweithio ar ffyrdd i gynyddu potensial dalfa garbon amgylchedd morol Cymru ymhellach.”

Mae astudiaeth CNC yn ymchwilio i'r cynefinoedd carbon glas hyn yng Nghymru, o fflatiau rhynglanwol Afon Menai a morwellt Porth Dinllaen, i'r gwelyau sêr brau oddi ar arfordir Sir Benfro ac ehangder gwely'r môr wedi'i orchuddio â thywod a graean ymhellach allan.

Mae’n ymddangos mai morfeydd heli yw’r cynefinoedd morol mwyaf effeithlon ar gyfer dal a storio carbon. Mae morfeydd heli’n bresennol o amgylch arfordir Cymru ac yn cael eu gwarchod mewn rhai ardaloedd fel Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Mae morfeydd heli’n cymryd carbon deuocsid o'r aer a'r dŵr o'u hamgylch ac yn ei storio yn eu gwreiddiau a'r gwaddodion o'u cwmpas. Maen nhw hefyd yn helpu i liniaru effeithiau eraill yr argyfwng hinsawdd, trwy amddiffyn yr arfordir rhag stormydd a lleihau llifogydd arfordirol. 

Ymhlith y storfeydd carbon glas eraill sydd i’w cael mewn cynefinoedd morol mae organebau byw fel morwellt a physgod cregyn, a ffurfiau nad ydyn nhw'n fyw, fel gwaddod ar wely'r môr, a chregyn anifeiliaid morol. Mae’n bosibl cloi rhywfaint o garbon i ffwrdd am genedlaethau yng ngwely’r môr filltiroedd o’r lan, ond mae rhywfaint, fel y carbon sy'n cael ei storio mewn gwymon, yn cael ei storio am oes y planhigyn, cyn cael ei ryddhau eto yn ôl i'r amgylchedd.

Mae cynyddu potensial cynefinoedd morol i storio carbon yn hanfodol fel rhan o ymdrechion Cymru i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae llawer o gynefinoedd carbon glas eisoes yn cael eu gwarchod trwy rwydwaith helaeth o ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Mae’r gwaith o reoli’r ardaloedd hyn yn ceisio cynyddu gwytnwch cynefinoedd yn wyneb newid yn y dyfodol, yn ogystal â gwarchod a gwella ansawdd cynefinoedd. Mae gweithgareddau dynol wedi effeithio ar rai cynefinoedd carbon glas yng Nghymru a gallai eu hadfer i gyflwr da gynyddu faint o garbon y gallant ei storio.

Yn ogystal â’r carbon a gaiff ei storio yn ein coetiroedd a'n mawndiroedd, mae’n amlwg o astudiaeth CNC bod cynefinoedd amrywiol ein harfordir a'n môr hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Cymru i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.