CNC i osod amddiffynfa dros dro yn erbyn llifogydd yn Llanandras

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gosod amddiffynfa dros dro yn erbyn llifogydd yn Llanandras.

Mae disgwyl i'r gwaith o osod yr amddiffyniad ddigwydd cyn 11 Tachwedd ac mae disgwyl iddo gymryd hyd at ddeuddydd.

Bydd yr amddiffyniad dros dro yn amddiffyn rhan o Lanandras ar ôl i wal oedd yn amddiffyn y dref rhag llifogydd fethu yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd yr amddiffynfa lifogydd dros dro yn cael ei gosod yn Afon Llugwy ychydig i lawr yr afon o Bont Llugwy.

Mae Tîm Peirianneg CNC wedi arolygu'r wal bresennol ac wedi dylunio amddiffyniad dros dro i ddarparu'r un lefel o ddiogelwch ag a ddarparwyd yn flaenorol.

Bydd yr amddiffyniad modiwlar a chadarn yn ddigon uchel i amddiffyn rhag lefelau uchel o ddŵr yn yr afon, ynghyd ag unrhyw ollwng yn sgil bylchau neu arwynebedd anwastad.

Dywedodd Julian Barnes, Rheolwr Gweithrediadau Tir ac Asedau CNC:
"Ry'n ni'n gwybod bod rhai o drigolion Llanandras wedi bod yn poeni'n benodol am gyflwr y wal lifogydd sydd wedi'i difrodi wrth i dywydd yr hydref ddechrau effeithio ar lefelau afonydd.
"Ein ffocws yw sicrhau ein bod yn gosod datrysiad dros dro a fydd yn darparu'r un lefel o amddiffyniad ag y byddai'r wal lifogydd wedi'i wneud cyn iddi fethu. Rydym yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod yr amddiffyniad yn ei le cyn tywydd gwirioneddol wael yr hydref a’r gaeaf."

Mae swyddogion CNC hefyd yn ystyried opsiynau tymor hir. Felly mae'n bosib y bydd trigolion yn gweld swyddogion a chontractwyr CNC yn archwilio'r safle yn fuan wedi i'r amddiffyniad gael ei osod.