Adroddiad newydd yn dangos y bydd gwaith cadwraeth yn hybu rhywogaeth brin warchodedig ledled Cymru

madfall ddwr gribog

Mae adroddiad newydd wedi dangos y bydd gwaith prosiect cadwraeth pwysig i adfywio twyni tywod ledled Cymru hefyd yn gwella'r cynefin bridio ar gyfer y fadfall ddŵr gribog, sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.

Cynhaliwyd cyfres o arolygon fel rhan o brosiect Twyni Byw gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn Nhywyn Aberffraw, Tywyn Niwbwrch, Morfa Harlech a Chynffig, sydd i gyd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) â chofnodion hanesyddol a phoblogaethau hysbys o fadfallod dŵr cribog.

Rhan o waith prosiect Twyni Byw yw ail-lunio a chrafu rhannau o'r twyni yn y pedwar safle. Canfu'r adroddiad y dylai'r gwaith hwn greu cynefin dŵr agored yn y gwanwyn o fewn y llaciau; gall madfallod dŵr cribog ddefnyddio’r rhain er mwyn bridio.

Gan ei bod yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, roedd gofyn asesu poblogaethau o fadfallod dŵr cribog ar draws yr ardaloedd ymyrraeth arfaethedig i benderfynu a yw effeithiau andwyol neu niwed yn debygol o gael eu hachosi i'r rhywogaeth o ganlyniad i waith y prosiect. Lle nodwyd effeithiau tebygol, mae mesurau osgoi a lliniaru yn cael eu trefnu.

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw:
"Rydym yn falch o allu rhannu canfyddiadau adroddiad newydd Twyni Byw ar y fadfall ddŵr gribog. Fel rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, mae ein prosiect yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y poblogaethau presennol a geir ar draws ein meysydd gwaith nid yn unig yn ddiogel ond hefyd yn cael yr amodau gorau posibl i ffynnu yn y dyfodol.
"Rydym hefyd yn hapus y gallai'r posibilrwydd cynyddol o gynefin dŵr agored o fewn llaciau’r twyni o ganlyniad i'n gwaith roi hwb i'r rhywogaeth yn y dyfodol. Dyma dystiolaeth i gefnogi ein nod o adfywio cynefinoedd sy'n gartref i rai o'n rhywogaethau prinnaf."

Y fadfall ddŵr gribog, sy'n 15cm o hyd, yw madfall fwyaf Cymru, ac mae gan fadfallod gwryw a benyw foliau oren gyda smotiau du. Y gwryw sy'n datblygu crib ddanheddog ar hyd ei gefn. Mae'n dibynnu ar byllau sy'n rhydd o bysgod a chynefin daearol addas gerllaw ar gyfer hela, cysgodi a chysgu.

Mae yn erbyn y gyfraith i ddifrodi neu ddinistrio safle bridio neu le gorffwys madfallod dŵr cribog (pwll neu gynefin daearol), neu ddal, lladd, anafu neu darfu ar y rhywogaeth yn fwriadol.

Nod prosiect Twyni Byw gan Chyfoeth Naturiol Cymru yw adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle ar wahân yng Nghymru.