Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau cadarn yn erbyn pysgotwyr a ddaliwyd yn diystyru deddfau pysgota

Ar ôl i bedwar o bysgotwyr gael eu dyfarnu’n euog o gyfres o droseddau pysgota, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wedi cyhoeddi rhybudd i bysgotwyr eraill sy’n ystyried diystyru’r deddfau feddwl eto neu wynebu euogfarn.

Daliwyd dau ddyn o ganolbarth Cymru a dau ddyn o dde Cymru yn cymryd rhan mewn arferion pysgota anghyfreithlon y llynedd gan swyddogion gorfodi CNC. Cawsant gyfanswm dirwy o £1,879, gan gynnwys costau ymchwilio a gordaliadau dioddefwyr.

Mae CNC wedi cymryd y camau hyn er mwyn cynnal yr is-ddeddfau sydd ar waith i helpu i ddiogelu pysgod.

Yn ddiweddar, ymddangosodd Nicholas Bonham, o Heol Daniel, Pontarddulais, Marc Andrew Davies, Williams Street, Pontarddulais, Paul Hughes o Luest Newydd, Llanbadarn, Aberystwyth, a Mark Williams, o Ddôl y Pandy, Capel Bangor, Aberystwyth gerbron llysoedd ynadon a derbyn dirwyon sylweddol am eu troseddau, a oedd yn cynnwys pysgota heb y drwydded pysgota â gwialen gywir, defnyddio bachau adfachog a physgota ag abwyd anghyfreithlon.

Dywedodd Alun Thomas, Uwch Swyddog Gorfodi gyda CNC:

“Byddwn yn parhau i erlid troseddwyr ac yn cymryd camau gorfodi diymdroi yn erbyn y lleiafrif bach o bysgotwyr sy’n cyflawni’r troseddau hyn.
“Mae pysgota anghyfreithlon fel yn yr achosion hyn ar afonydd Llwchwr a Rheidol yn tanseilio ymdrechion CNC i wneud pysgota yn gynaliadwy ac yn bleserus i’r rhan fwyaf o bysgotwyr yng Nghymru sy’n pysgota’n gyfreithlon ac yn gyfrifol.
“Fel yn achosion y pedwar pysgotwr hwn, rhaid cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n ceisio manteisio ar stociau pysgod gwyllt, fel yr Eog a’r Sewin, sydd yn ein hafonydd, neu sy’n ymuno â’n hafonydd, er mwyn atal eraill rhag defnyddio dulliau genweirio anghyfreithlon.”

Daliwyd Nicholas Bonham a Marc Andrew Davies yn pysgota’n anghyfreithlon am eogiaid a sewin ar afon Llwchwr gan swyddogion gorfodi CNC a swyddog Heddlu Dyfed-Powys ar noson 6 Hydref 2022.

Roedd y ddau yn pysgota’n fwriadol heb drwydded pysgota â gwialen fudol ddilys ac yn pysgota gyda llith bysgota Rapala yn cynnwys nifer o fachau adfachog triphlyg.

Plediodd y ddau yn euog i’r troseddau yn Llys Ynadon Abertawe ar 23 Mawrth 2023.

Roedd y ddwy drosedd yn golygu cost a oedd yn gyfanswm o £547 i Bonham. Derbyniodd ddisgownt am bledio’n euog yn gynnar ac am brynu trwydded pysgota â gwialen fudol ar ôl y digwyddiad. Cafodd ddirwy o £105, gorchmynnwyd iddo dalu costau ymchwilio CNC o £400 a bu rhaid iddo dalu gordal dioddefwr o £42.

Rhoddwyd sawl cyfle i Davies brynu trwydded pysgota â gwialen gan CNC, ond dewisodd beidio â chydymffurfio â’r ceisiadau hynny ac ni atebodd i wŷs llys. Fe’i cafwyd yn euog o’r ddwy drosedd ac mae’n rhaid iddo dalu cyfanswm o £790. Cafodd ddirwy o £220, rhaid iddo dalu costau ymchwilio CNC o £400, £82 o iawndal i CNC am golli refeniw o’r drwydded pysgota â gwialen a gordal dioddefwr o £88.

Yng nghanolbarth Cymru, ar afon Rheidol ar 5 Hydref 2022, gwelwyd Paul Hughes gan Swyddog Gorfodi CNC yn pysgota’n fwriadol am eogiaid a sewin mudol gyda bachau adfachog ac yn pysgota ag abwyd anghyfreithlon, sef ‘mwydod mewn clwstwr’ pan ganiateir mwydod unigol yn unig.

Plediodd Hughes yn euog i’r troseddau yn Llys Ynadon Aberystwyth. Rhaid iddo dalu cyfanswm o £317. Cafodd ddirwy o £166, bu’n rhaid iddo dalu costau ymchwilio CNC o £85 a gordal dioddefwr o £66.

Hefyd, ar 5 Hydref 2022 ar afon Rheidol, gwelwyd Mark Williams o Ddôl y Pandy, Capel Bangor, Aberystwyth, yn pysgota am eogiaid a sewin mudol heb drwydded pysgota â gwialen ddilys.

Plediodd Williams yn euog a chafodd ddirwy o £100, gorchmynnwyd iddo dalu costau ymchwilio CNC o £85 a gordal dioddefwr o £40.

Ychwanegodd Mr Thomas:

“Mae angen y drwydded pysgota â gwialen ddilys gywir ar bob pysgotwr i’w caniatáu i bysgota am unrhyw rywogaeth o bysgod dŵr croyw, boed hynny mewn afonydd neu bysgodfeydd dyfroedd llonydd yng Nghymru. Mae’r arian a godir drwy werthiannau trwyddedau pysgota â gwialen yn cael ei ail-fuddsoddi mewn pysgodfeydd a physgota.                             
“Mae is-ddeddfau ar waith i ddiogelu stociau eogiaid a sewin sydd wedi prinhau rhag y niwed a achosir gan fachau adfachog. Mae defnyddio bachau heb adfachau neu fachau gyda’r adfachau wedi’u tynnu yn amddiffyn y pysgod rhag niwed ac yn gwneud yr arfer o ddal a rhyddhau yn haws o lawer, gan ganiatáu i bysgotwyr ryddhau’r pysgod mor ddiogel ag sy’n bosib yn ôl i’w hafonydd genedigol, fel y gallant barhau â’u taith i fyny’r afon i silio’n llwyddiannus.”

Nod CNC yw cynyddu’r gweithgarwch pysgota hamdden yng Nghymru, gan sicrhau hefyd fod yr holl stociau pysgod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyrwyddo genweirio cyfreithlon yn gofyn am greu amodau teg a chyfartal i’r rhai sy’n prynu trwyddedau pysgota â gwialen ac sy’n cydymffurfio ag unrhyw is-ddeddfau pysgodfeydd. 

Mae atal niwed i hyd yn oed niferoedd unigol o bysgod yn hanfodol er mwyn cael poblogaethau stociau pysgod llwyddiannus yn y dyfodol. Gall y gweithgareddau pysgota anghyfreithlon hyn hefyd effeithio ar y cymunedau genweirio lleol yng Nghymru, sy’n werth degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i’r diwydiant.

Am wybodaeth ar bysgota yng Nghymru ac Is-ddeddfau, ewch i wefan CNC:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Is-ddeddfau genweirio (rheolau pysgota)