Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i bysgod marw

Mae swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn casglu tystiolaeth yn dilyn digwyddiad o lygredd yn Ne-Ddwyrain Cymru sydd wedi effeithio ar Nant Cylla, un o isafonydd Afon Rhymni yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc.

Roedd staff ar y safle ger Penpedairheol, Caerffili, o fewn awr ar ôl derbyn adroddiad ac yn wreiddiol credid fod tua 100 o bysgod wedi marw. 

Er nad oedd unrhyw arwyddion gweladwy o lygredd, lansiodd swyddogion ymchwiliad i geisio dod o hyd i ffynhonnell a chanfod achos y marwolaethau, gan gynnwys cymryd samplau dŵr a physgod marw i’r labordy. 

Parhaodd yr ymchwiliad drwy gydol dydd Sul (26 Mai) a dydd Llun (27 Mai) a chadarnhaodd swyddogion fod nifer y brithyll ifanc ac oedolion oedd wedi marw tua 500, a hynny ar hyd ychydig llai na chilomedr o'r afon. 

Nawr bydd y samplau yn cael eu dadansoddi ac yn cyfarwyddo camau nesaf CNC.

Meddai David Letellier, Rheolwr Gweithrediadau CNC: 

"Mae gwarchod afonydd arbennig Cymru yn anhygoel o bwysig i ni. Cyn gynted ag y clywsom am y digwyddiad hwn, roedd ein swyddogion ar y safle er mwyn cynnal ymchwiliad. 
"Yn anffodus, mae'r niferoedd terfynol o bysgod sydd wedi marw o ganlyniad i’r llygredd hwn yn llawer uwch nag oeddem ni’n tybio i ddechrau ac mae’r digwyddiad wedi cael effaith ddinistriol ar stociau pysgod lleol. 
"Rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i'r ffynhonnell a byddwn yn ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf, gan gynnwys camau gorfodi priodol yn erbyn y sawl sy'n gyfrifol. 
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhai a roddodd wybod i ni am y digwyddiad hwn ac yn annog unrhyw un i roi gwybod am unrhyw arwyddion o lygredd inni drwy ffonio 0300 065 3000 er mwyn i ni allu ymateb."