Gollyngiad diesel Llangennech yr ymgyrch adfer fwyaf heriol ers y Sea Empress

Y gwaith glanhau parhaus ar safle damwain a gollyngiad diesel Llangennech yw'r ymgyrch adfer fwyaf heriol ers trychineb y Sea Empress 25 mlynedd yn ôl, yn ôl y Rheolwr Adfer Digwyddiadau.

Mae’r contractwyr amgylcheddol Adler and Allan wedi bod yn gweithio ddydd a nos i gwblhau'r gwaith adfer cymhleth ar y safle lle'r aeth trên a oedd yn tynnu 25 o wagenni yn cynnwys hyd at 100,000 litr o ddiesel yr un oddi ar y cledrau ger Llangennech yn Sir Gaerfyrddin ar 26 Awst 2020. Arweiniodd y ddamwain a’r difrod dilynol i'r wagenni at ollyngiad diesel sylweddol a thân mawr.

Mae pridd halogedig o ddarn 150metr o'r rheilffordd ar ddyfnder o ddau fetr a lled o 20 metr wedi'i gloddio yn ystod yr ymgyrch 24/7. Yn lle’r pridd halogedig, gosodwyd deunydd newydd, glân o chwareli yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sy'n cyfateb i briodweddau cemegol a ffisegol y pridd sydd eisoes ar y safle. Mae deunyddiau halogedig wedi'u symud gan lori a'u cludo i gyfleuster rheoli gwastraff trwyddedig ger Merthyr Tudful.  

Mae'r gwaith o fonitro'r safle a'r amgylchedd ehangach yn mynd rhagddo i sicrhau diogelwch ac ansawdd pysgod cregyn a gynaeafir o'r ardal. Dengys y canlyniadau diweddaraf o’r labordai a ddadansoddodd gocos a chregyn gleision ar gyfer halogyddion amgylcheddol, gan gynnwys olew, fod lefelau'n parhau i fod ymhell o fewn terfynau rheoleiddio.

Mae'r rheolwr adfer digwyddiadau Stuart Thomas, o Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod wrth wraidd yr ymdrech adfer.

Dywedodd Stuart Thomas:

"Dyma'r ymgyrch adfer fwyaf heriol a welsom ers trychineb y Sea Empress yn Sir Benfro 25 mlynedd yn ôl.
"Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud ar y safle i dynnu'r pridd halogedig yn ddiogel ac adfer y tir. Mae contractwyr wedi gweithio’n ddi-baid, ac wedi gorfod goresgyn llawer o heriau, gan gynnwys llifogydd ar y safle yn ystod tywydd garw diweddar.
"Mae'r gwaith corfforol bellach bron wedi'i gwblhau gyda dim ond tir yr Awdurdod Glo i'w drin, gwaith ailblannu ac wrth gwrs ailagor y rheilffordd.
"Bydd gwaith monitro ar y safle a'r ardal gyfagos, sy'n cynnwys pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig, yn parhau am flynyddoedd i ddod.
"Rwy'n falch iawn o weld o ganlyniadau’r gwaith monitro diweddaraf ar bysgod cregyn eu bod yn parhau i fod ymhell o fewn terfynau rheoleiddio. Mae cynhyrchwyr pysgod cregyn lleol wedi cael gwybod."

Mae rhan olaf y gwaith adfer bellach yn digwydd ar dir yr Awdurdod Glo. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cael gwared ar haen uchaf y tir lle cafodd dŵr tân halogedig ei bwmpio yn ystod y digwyddiad mewn ardal o goetir i'r gogledd-ddwyrain o safle'r digwyddiad, yn ogystal â gwaith cloddio dyfnach ar safle'r digwyddiad ei hun.

Mae Jacobs, sy'n gweithredu ar ran Network Rail, wedi darparu cymorth dylunio ar gyfer y rheilffordd newydd gyda gwaith yn dechrau i osod trac newydd, signalau, pŵer a gwaith telathrebu yn dechrau fel y cynlluniwyd ar 4 Ionawr. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn ôl y cynllun er gwaethaf rhai heriau diweddar o ran tywydd.

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru gyda Network Rail:

"Dyma un o'r ymgyrchoedd adfer amgylcheddol mwyaf y mae Network Rail wedi bod yn ymwneud â hi erioed a diolch i feddwl cyflym ein cydweithwyr rheng flaen ar y rheilffordd, a'n partneriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru, llwyddwyd i osgoi trychineb amgylcheddol.
"Dros y ddau fis diwethaf, mae tua 30,000 tunnell o bridd halogedig wedi'u symud o'r safle – ymgyrch enfawr a gynlluniwyd i ddiogelu'r amgylchedd lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth i Gymru a'n partneriaid cludo nwyddau i ailgychwyn gwasanaethau unwaith. Mae cam olaf ein gwaith bellach ar y gweill, ac rydym yn gwneud cynnydd mawr o ran gosod trac newydd sbon ac atgyweirio difrod i'r system signalau."

Mae Adler and Allan yn rhagweld y cwblheir y gwaith adfer erbyn diwedd mis Chwefror 2021, gyda gwaith monitro ac adfer ecolegol parhaus dros y ddwy i bum mlynedd nesaf.

Mae'r ymchwiliad parhaus i achos y ddamwain yn cael ei arwain gan y Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Network Rail.