Cwympo llarwydd yn Nyffryn Sirhywi

pren wedi'i bentyrru ar ochr ffordd y goedwig

Bydd ymgyrch bwysig i gael gwared â choed llarwydd heintiedig o goedwigoedd Dyffryn Sirhywi yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn amcangyfrif y bydd angen cwympo ardal 70 hectar o larwydd i gyd - sy'n cyfateb yn fras i faint 70 o gaeau rygbi. Mae hyn yn cynnwys coedwigoedd sy'n ffinio ar Barc Gwledig Sirhywi, a ger Cwmfelinfach yr ochr arall i'r dyffryn.

Mae'r coed wedi'u heintio gan glefyd Phytophthora ramorum, a elwir fel arfer yn glefyd llarwydd. Yn 2013 nododd arolygon fod y clefyd yn lledaenu’n gyflym ar draws coedwigoedd Cymru, a sbardunodd hyn strategaeth genedlaethol i gael gwared â’r coed heintiedig er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

Yng Nghoedwig Cwmcarn gerllaw mae ymgyrch bum mlynedd i geisio cael gwared â llarwydd heintiedig newydd ddod i ben. Ond yn wahanol i'r gwaith cymhleth yng Nghwmcarn, mae’r contractwyr sy'n gweithio ar ran CNC yn bwriadu cael gwared â’r llarwydd heintiedig o Ddyffryn Sirhywi yn gyflym, a hynny o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd.

Er mwyn caniatáu iddynt wneud hyn yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd angen i CNC gau'r goedwig dros dro i ymwelwyr. Bydd Parc Gwledig Sirhywi yn parhau i fod ar agor.

Meddai Jim Hepburn, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC:

“Nid ydym yn hoffi rhwystro mynediad i’n coedwigoedd, gan ein bod yn gwybod i ba raddau mae’r bobl leol yn eu gwerthfawrogi, ond yn yr achos hwn dyma’r ateb gorau i gyflawni’r gwaith yn gyflym a heb oedi.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfyngu ar yr amhariadau y bydd y gwaith hwn yn eu hachosi, a phan fydd yn ddiogel gwneud hynny byddwn yn ailagor ardaloedd o’r goedwig wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
“Mae clefyd llarwydd wedi cael effaith ddramatig ar goedwigaeth yng Nghymru, ac mae hyn i’w weld amlycaf yng Nghoedwig Cwmcarn gerllaw lle rydym bellach yn ailsefydlu llwybrau troed a llwybrau beicio mynydd, ac yn paratoi i ailagor Rhodfa’r Goedwig.
“Mae’n anffodus ein bod yn gorfod cwympo coed, ond mae hyn yn rhoi cyfle inni ailgynllunio'r goedwig ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cwblhau’r gwaith cwympo rydym yn bwriadu plannu coed newydd, gan gynnwys cymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol, a fydd yn dechrau adfywio’r rhannau hynny a oedd unwaith yn goetir hynafol. Bydd y rhain yn sicrhau y bydd y goedwig yn fwy cadarn fel y gall pobl ddal i’w mwynhau am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Unwaith y bydd y gwaith cwympo wedi dechrau, bydd CNC yn gofyn i bobl ufuddhau i’r cyfyngiadau ar y llwybrau troed a dilyn yr arwyddion a’r dargyfeiriadau er mwyn eu diogelwch eu hunain. Gall peidio â gwneud hynny arwain at oedi i’r gwaith dan sylw ac o ran ailagor y goedwig.