Pysgod anfrodorol ymledol i gael eu dileu o lyn poblogaidd yn Llanelli

Llyfrothen Uwchsafn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu dileu’r Llyfrothen Uwchsafn anfrodorol o lyn poblogaidd yn Llanelli.

Yn Ionawr 2023, bydd y ddwy asiantaeth yn dechrau ar y gwaith o symud y pysgod o Barc Dŵr y Sandy er mwyn diogelu dyfodol y llyn, yn ogystal â dyfrffyrdd ledled Cymru a Lloegr.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gefnogi gan y tirfeddianwyr, Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae Llyfrothod Uwchsafn yn frodorol i Asia, ond mae’r rhywogaeth wedi lledaenu'n gyflym ledled Ewrop. Mae’r pysgodyn ymledol yn fygythiad sylweddol i ecoleg a bywyd gwyllt afonydd a llynnoedd, a’r pysgodfeydd y maent yn eu cynnal.

Mae'r pysgodyn lliw arian yn bwyta wyau a larfa pysgod brodorol ac yn atgenhedlu'n gyflym, gan silio hyd at bedair gwaith y flwyddyn. Gall hyn leihau stociau o bysgod brodorol yn sylweddol trwy eu trechu am fwyd a chynefin. Gallant hefyd ledaenu clefydau a pharasitiaid sy'n fygythiad i'n rhywogaethau brodorol.

Dywedodd Bethany Greenfield, Cynghorydd Arbenigol Pysgodfeydd, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae rhywogaethau ymledol yn fygythiad difrifol i’n bywyd gwyllt brodorol. Mae'n bwysig bod  Llyfrothennod Uwchsafn yn cael eu gwaredu oherwydd y risg y maent yn ei achosi i'r amgylchedd. Pe bai’r pysgod yn cael dianc a lledaenu, byddent yn cael effaith ddifrifol ar fywyd gwyllt brodorol a chynefinoedd mewn dyfroedd eraill.

“Rydym yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin i wneud y gwaith dileu hwn o Barc Dŵr Sandy, a llyn arall mewn man arall yn Sir Gaerfyrddin sy’n eiddo preifat.

“Os hoffai unrhyw un ddarganfod mwy am y rhaglen ddileu, bydd cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ym Mwyty Sandpiper, Parc Dŵr Sandy, Llanelli, ar Ionawr 5 2023 rhwng 11yb a 1yp.”

Mae Parc Dŵr y Sandy yn un o 34 o safleoedd hysbys ledled Cymru a Lloegr lle mae’r pysgod ymledol wedi’u darganfod.

Bydd gwaith yn dechrau i ddileu’r Llyfrothen Uwchsafn yn ystod Ionawr 2023 a bydd yn cymryd tua phedair wythnos i'w gwblhau.

Bydd llai o ddŵr yn y llyn a bydd pysgod iach, mwy o faint, gan gynnwys carpiaid ac ysgretennod.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:

"Mae rhywogaethau goresgynnol anfrodorol yn fygythiad sylweddol i fioamrywiaeth ac rydym yn gweithredu yma yng Nghymru i atal cyflwyniad a lledaeniad, gan gynnwys trwy ymyriadau gan grwpiau gweithredu lleol, gwella arferion bioddiogelwch a gwaith gwaredu wedi'i dargedu. Rwy'n falch y bydd cyllid Llywodraeth Cymru a chydweithio â phartneriaid yn helpu i wella bioamrywiaeth ar draws Parc Arfordirol y Mileniwm."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Gareth John:

"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y rhywogaeth anfrodorol o bysgod, llyfrothod uwchsafn, o lyn ym Mharc Dŵr y Sandy, Llanelli.

"Mae llyfrothod uwchsafn yn cael eu hystyried yn un o'r rhywogaethau pysgod anfrodorol mwyaf niweidiol i gael ei chyflwyno i Orllewin Ewrop ac mae eu presenoldeb o fewn y llyn ym Mharc Dŵr y Sandy yn fygythiad i'r bywyd gwyllt lleol.

"Bydd ein swyddogion a'n cydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal sesiwn galw heibio i drigolion lleol yn y flwyddyn newydd, er mwyn lleddfu unrhyw bryderon a allai fod ganddynt am y gwaith a wnaed i dynnu'r rhywogaeth hon o bysgod o'r llyn.

"Mae'n bwysig nodi y bydd y gwaith o gael gwared ar y llyfrothod uwchsafn yn cael ei wneud yn drugarog a bydd y pysgod yn cael eu tynnu oddi yno’n gyflym gan sicrhau cyn lleied o straen i'r anifail â phosib. Bydd y corff dŵr wedi'i ffensio i ffwrdd yn ddiogel yn ystod cyfnod y gwaith."

Bydd pysgodladdwr sy'n cynnwys rotenone, yna’n cael ei roi yn y dŵr i ladd y boblogaeth o Lyfrothennod Uwchsafn. Mae hwn yn gemegyn naturiol fel plaladdwr neu chwynladdwr sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ladd pysgod.

Rotenone yw'r ffordd fwyaf effeithiol a thrugarog i gael gwared â Llyfrothennod Uwchsafn, gan achosi'r trallod lleiaf posibl iddynt.

Mae mamaliaid, adar a physgod cragen yn gallu gwrthsefyll y cemegyn yn dda iawn ac nid ydynt yn cael eu heffeithio. Ni fydd ychwaith yn peri unrhyw risg i ddefnyddwyr y parc. Bydd mynediad cyhoeddus o amgylch y llyn yn cael ei gyfyngu tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

Mae Rotenone yn torri i lawr yn naturiol yn y dŵr, y bydd CNC yn ei fonitro'n barhaus tan nad yw'n bresennol mwyach, ac ar ôl hynny gellir adfer y llyn i'w gyflwr naturiol blaenorol.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ddileu ewch yma: https://bit.ly/LlyfrothodUwchsafnLlanelli 

Manylion y sesiwn galw heibio: Bwyty Sandpiper, Parc Dŵr Sandy, Llanelli, ar Ionawr 5, 2023 rhwng 11yb a 1yp.