Anrhydedd ar lwyfan fyd-eang i Gymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol Geoamrywiaeth

Mae cornel fach o Ynys Môn wedi’i henwi ymhlith y safleoedd daearegol gorau yn y byd.

Mae Ynys Llanddwyn, sy'n rhan o Goedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, wedi'i henwi yn rhestr y 100 o Safleoedd Treftadaeth Daearegol Cyntaf - safleoedd daearegol allweddol o bwysigrwydd gwyddonol rhyngwladol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad gwyddorau daearegol drwy gydol hanes.

Mae'n gydnabyddiaeth ar y cyd gan Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Daearegol (IUGS), un o sefydliadau gwyddonol mwyaf y byd, a UNESCO.

Mae'r cyhoeddiad yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Geoamrywiaeth UNESCO (6 Hydref) sy'n helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o brosesau deinamig y Ddaear ac yn helpu i feithrin cymdeithas fwy cynaliadwy.

Mae Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch wedi’u ffurfio o gymysgedd o greigiau, gan gynnwys calchfaen, cornfeini a lafâu clustog y credir eu bod yn 500-600 miliwn o flynyddoedd oed o leiaf.

Cafodd yr ardal ei hastudio gyntaf dros 200 mlynedd yn ôl, ac mae daearegwyr o bob cwr o'r byd yn parhau i ymweld i brofi eu damcaniaethau ac ystyried tarddiad y ddaeareg gymhleth.

Yn ogystal â'i nodweddion daearegol, mae Niwbwrch, sy'n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt prin gan gynnwys tegeirianau, amffibiaid, infertebratau, mwsoglau a chennau.

Dywedodd Raymond Roberts, Prif Ymgynghorydd Arbenigol Geoamrywiaeth CNC:

"Dyma gydnabyddiaeth arbennig i Ynys Llanddwyn a Niwbwrch sy'n golygu ei fod yn sefyll ymhlith safleoedd daearegol pwysig ac eiconig eraill ar draws y byd ac yn cael ei gydnabod gan gymuned y gwyddorau daear am ei effaith wrth geisio deall y Ddaear a'i hanes.
"Mae cael cydnabyddiaeth fyd-eang ar gyfer un o safleoedd daearegol hynod Cymru yn gyflawniad gwych. Mae CNC yn rheoli ac yn gwarchod nifer o safleoedd ar draws Cymru er budd yr amgylchedd i warchod geoamrywiaeth, cynyddu bioamrywiaeth ac i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn helpu i gefnogi'r gwaith hwnnw."

Mae dros 200 o arbenigwyr o bron i 40 o wledydd a deg sefydliad rhyngwladol, sy'n cynrychioli gwahanol ddisgyblaethau o fewn gwyddorau daear, wedi cymryd rhan yn y broses o ddewis safleoedd.

Bydd y rhestr lawn o safleoedd byd-eang yn cael ei datgelu mewn digwyddiad arbennig a gynhelir gan yr IUGS ddiwedd mis Hydref.