Rhybudd i ffermwyr ynglŷn â naddion pren anghyfreithlon

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i ffermwyr fod yn ymwybodol o naddion pren gwastraff o ansawdd gwael sy’n cael eu defnyddio i’w rhoi dan anifeiliaid.

Yn sgil ymchwiliadau diweddar, canfu Cyfoeth Naturiol Cymru fod ffermwyr yn prynu naddion pren gwastraff o ansawdd gwael yn ddiarwybod, gan ei ddefnyddio i’w roi dan anifeiliaid, heb fod yn ymwybodol o’r peryglon, ac yna mae’n ymledu i’r tir. 

Mae’r naddion pren wedi cael eu gwneud o bren sydd wedi’i drin, a allai gynnwys sylweddau niweidiol a allai fod yn beryglus. 

Dylai ffermwyr sy’n defnyddio hwn i’w roi dan anifeiliaid wirio o le mae eu cynnyrch nhw wedi dod drwy holi’r cyflenwr. Os ydynt yn pryderu efallai eu bod nhw wedi derbyn naddion pren gwastraff heintiedig, dylen nhw ddweud wrth CNC drwy ffonio 0300 065 3000. 

Ywedodd Emma Killian, Ymgynghorydd Polisi Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Rydym wedi canfod hyn ar nifer o ffermydd, ac nid oedd y ffermwyr yn ymwybodol eu bod wedi archebu naddion pren gwastraff o ansawdd isel sydd wedi cael ei gynhyrchu’n anghyfreithlon. 
“Gallai’r naddion pren gynnwys sylweddau niweidiol a allai fod yn beryglus i’r anifeiliaid. Os cymysgir hyn gyda biswail a’i wasgaru ar gaeau, gallai cemegion a llygredd fynd i mewn i’r ddaear. 
“Ein cyngor i ffermwyr yw gwirio ansawdd y cynnyrch cyn ei brynu, ac os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch ag ofni dweud na, a’i adrodd i ni.” 

Mae naddion pren gwastraff yn addas i’w defnyddio i roi dan anifeiliaid cyn belled â’i fod wedi cael ei wneud o bren gwastraff nad yw wedi cael ei drin, ac mae eithriad gwastraff U8 wedi ei gofrestru â Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Dylai naddion pren o ansawdd da gael eu gwneud o bren nad yw wedi’i drin, fel eu bod yn lân ac yn ddiogel i’w gwasgaru ac i anifeiliaid. Pan fydd y naddion pren hyn yn cael eu cymysgu gyda biswail neu wrtaith, gellir eu compostio a’u gwasgaru ar dir amaethyddol. 

Hoffai CNC atgoffa ffermwyr i ddefnyddio’r rhestr wirio ar gyfer gwasgaru ar y tir, a gynhyrchwyd ar y cyd ag Undebau Ffermio.