Cynlluniau i gwympo coed llarwydd heintiedig ym Moel Famau

Coed ar ochr mynydd yn Moel Famau

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cwympo coed llarwydd heintiedig ym Moel Famau yn Sir Ddinbych yn y Flwyddyn Newydd i helpu i arafu ymlediad y clefyd.

Mae Moel Famau, sydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn gyrchfan boblogaidd iawn ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, a bydd y gwaith cwympo’n cael ei reoli’n ofalus er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Mae’r coed wedi’u heintio â Phytophthora ramorum, neu glefyd y llarwydd. Maen nhw’n gorchuddio tua 26 hectar – neu faint 30 cae pêl-droed.

Bydd swyddogion CNC ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym maes parcio Moel Famau ddydd Sul 5 Rhagfyr a dydd Llun 6 Rhagfyr 2021 i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan bobl am y gwaith a sut y bydd yn cael ei reoli.

Bwriedir i’r gwaith ddechrau ym mis Ionawr 2022 a gorffen erbyn diwedd mis Mawrth 2022. I gadw pobl yn ddiogel, bydd rhannau o’r ffordd a’r llwybrau’n cael eu cau, a bydd arwyddion clir yn nodi’r rhannau hyn.

Ar ôl y gwaith, bydd CNC yn ailblannu ardaloedd y goedwig â choed amgen ar gyfer cynhyrchu pren. Bydd ardaloedd o gwmpas y maes parcio, y ffordd a’r llwybrau’n cael eu plannu â chymysgedd o rywogaethau llydanddail i helpu bywyd gwyllt a chyfoethogi’r amgylchedd er mwynhad pawb.  

Meddai Aidan Cooke, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer CNC:

“Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni gydymffurfio â hysbysiad iechyd planhigion statudol, sy’n dweud bod rhaid difa coed llarwydd heintiedig i atal y clefyd rhag ymledu ymhellach.
“Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn cael effaith ar yr ardal o ran ei golwg a’i hamwynder ond bydd ein cynllun ailblannu’n lliniaru hyn dros amser.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol drwy gydol y gwaith ac yn rhoi diweddariadau rheolaidd i leihau’r effaith lle bynnag y bo modd.
“Ein blaenoriaeth yw cadw pobl yn ddiogel ac rydym am ddiolch i bawb am eu cydweithrediad.”

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Tai a Chymunedau, a Chadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

“Mae’n anffodus bod clefyd y llarwydd wedi’i gofnodi ym Moel Famau.
“Mae hwn yn waith sylweddol ond hanfodol, a bydd y Cyngor ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n gweithio’n agos iawn gyda CNC i leihau’r effaith o ran bioamrywiaeth a tharfu ar yr ardal boblogaidd hon.
“Byddwn hefyd yn cefnogi cynllun ailblannu i leihau’r effaith wrth symud ymlaen.”

Er eu bod yn heintiedig, gellir defnyddio’r cnwd o goed llarwydd at sawl diben o hyd. Bydd y 4500 tunnell o goed a dynnir yn mynd i felinau llifio i’w defnyddio ar gyfer defnyddiau adeiladu tai, ffensys a phren ar gyfer tanwydd.

Yn 2013, nododd arolygon fod clefyd y llarwydd yn lledu’n gyflym ar draws coedwigoedd Cymru, gan ysgogi strategaeth ledled y wlad i dynnu coed heintiedig i arafu’r ymlediad.

Darllenwch ragor am iechyd coed yng Nghymru.