Dirwy o dros £4,000 i ddyn o Sir Ddinbych am lygredd slyri

Rhaid i ddyn o Ddinbych dalu dros £4,000 mewn dirwyon a chostau am lygru Afon Concwest yn Sir Ddinbych gyda slyri.

Ddydd Mawrth 18 Hydref 2022 yn Llys yr Ynadon, Yr Wyddgrug, plediodd Mr Glynne Jones, 68 oed o Hafodty Ddu yn Ninbych, yn euog  o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 i achosi gweithgaredd rhyddhau dŵr, sef rhyddhau deunydd gwenwynig neu lygredd i ddŵr croyw mewndirol.

Cafodd Mr Jones ddirwy o £1,600 a gorchymyn i dalu costau gwerth £2,950 o fewn 28 diwrnod.

Daeth hyn yn dilyn ymchwiliad gan Swyddogion CNC ym mis Rhagfyr 2020 a ganfu fod rheolaeth annigonol o slyri wedi achosi i beth lifo mewn i'r cwrs dŵr, gan effeithio ar gyflenwad dŵr preifat.

Dywedodd Anthony Randles, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru:

"Gallai'r pridd a'r slyri a ddarganfyddwyd yn y  dŵr ffo o eiddo Mr Jones, Hafodty Ddu, ac a aeth i mewn i Afon Concwest ym mis Rhagfyr 2020  fod wedi cael effaith ddinistriol ar y cwrs dŵr a'i fioamrywiaeth.
"Mae gan slyri lefelau uchel o amonia sy'n wenwynig i fywyd gwyllt yr afon. Gall ladd pysgod, ac mae hefyd yn cynnwys micro-organebau fel bacteria, firysau a ffyngau, sy'n gallu achosi clefydau i greaduriaid y dŵr.
"Roedd modd osgoi'r digwyddiad yma yn  eiddo Mr Jones yn Hafodty Ddu, ac ni ddylai fyth fod wedi digwydd. Mae'n dangos pwysigrwydd cynnal a chadw storfeydd slyri yn rheolaidd ac yn briodol."

I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd ffoniwch linell gymorth digwyddiad 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ewch i dudalen Adroddiad ar Ddigwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.