Ymgynghori ar drwydded wastraff Doc Penfro

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn cais gan Cyngor Sir Penfro I newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff yn Noc Penfro.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn cais gan Cyngor Sir Penfro I newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff yn Noc Penfro.

Ar hyn o bryd mae gan y safle drwydded i storio gwastraff cymysg, nad yw’n beryglus, sy‘n cael ei brosesu, ei fwndelu a’i lapio, ac yna’i storio ar y safle hyd nes ei drosglwyddo.

Mae’r Cyngor wedi gwneud cais i newid amodau ei drwydded er mwyn ymestyn y darn o dir lle caniateir iddo storio a thrin gwastraff, a’r mathau o wastraff y caniateir iddo eu derbyn. Mae hefyd yn bwriadu newid y prosesau trin a ganiateir ar y safle i fwndelu yn unig.

Mae’r mathau newydd o wastraff mae’n cynnig ei storio yn cynnwys ailgylchu nad yw’n beryglus fel papur, cardfwrdd, mhetalau, gwydr a thecstilau.

Ni fyddai’r newid gofynnol i'r drwydded yn cynyddu’r amser y caiff gwastraff ei storio, na’r cyfaint blynyddol cyffredinol o wastraff y caiff ei dderbyn.

Gwnaed cais ar wahân hefyd i ildio rhywfaint o dir o’i drwydded. 

Wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried cais y Cyngor, mae’n lansio ymgynghoriad chwe wythnos o hyd gyda phobl leol, busnesau ac arbenigwyr eraill gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae hwn yn gyfle i godi unrhyw bryderon neu ddarparu gwybodaeth bwysig y mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn ymwybodol ohono wrth asesu cais y cwmni.

Cynhelir sesiwn galw heibio i'r cyhoedd hefyd yn swyddfeydd Cyngor Tref Doc Penfro, Stryd Dimond, ar ddydd Mawrth 6 Awst rhwng 2-7pm.

Dywedodd Gavin Brown, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod gan y gymuned bryderon, wedi i'r safle gael ei reoli’n wael gan y gweithredwr blaenorol, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael cyfle i ddweud eu dweud wrth i ni asesu’r cais yma.
“Mae camau gorfodi yn erbyn y gweithredwr blaenorol yn parhau, ac mae archwiliadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar y safle a gafodd ei gymryd drosodd gan y Cyngor ym mis Awst y llynedd.
"Ni fyddwn yn newid amodau’r drwydded oni bai ein bod yn hyderus bod gan y Cyngor y cynlluniau a’r mesurau cywir yn eu lle i barhau i redeg y safle heb achosi niwed i'r bobl leol na’r amgylchedd."

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 30 Awst 2019

Mae copi caled ar gael drwy wneud cais i'r cyfeiriad post neu e-bost isod.

Rhaid i’r holl sylwadau gael eu derbyn yn ysgrifenedig erbyn 30 Awst 2019 I permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk neu:

Arweinydd y Tîm Trwyddedu (Gwastraff), Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Gwasanaeth Trwyddedu (Caerdydd), Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP