Gwirio, Glanhau a Sychu i rwystro rhywogaethau estron rhag goresgyn ein dyfroedd

Mae bywyd dyfrol yng Nghymru dan fygythiad oherwydd rhywogaethau goresgynnol ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog defnyddwyr hamdden yn afonydd, moroedd a dyfrffyrdd y wlad i chwarae eu rhan i helpu i fynd i'r afael â lledaeniad plâu a chlefydau a gludir gan ddŵr.

Dyma Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC, i egluro:

"Mae planhigion ac anifeiliaid ymledol o bob cwr o'r byd wedi cael eu cyflwyno'n ddamweiniol ac yn fwriadol i ddyfroedd Cymru dros y blynyddoedd, gan achosi problemau amgylcheddol difrifol yn ogystal ag atal pobl rhag cyflawni eu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â dŵr.
"Wythnos Rhywogaethau Estron yw’r wythnos hon (16 Mai 2022), sef digwyddiad rhyngwladol blynyddol i godi ymwybyddiaeth o effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol a'r pethau syml y gall pawb eu gwneud i atal eu lledaeniad.
"Rydym yn annog pysgotwyr, hwylwyr cychod a chanŵwyr i gofio mesurau bioddiogelwch ac ymarfer technegau 'Gwirio, Glanhau a Sychu' i helpu i atal rhywogaethau estron goresgynnol rhag lledaenu drwy sicrhau nad oes anifeiliaid a phlanhigion dyfrol ar eu hoffer, eu dillad a'u cychod ar ôl eu defnyddio."

 Mae canllawiau ‘Gwirio, Glanhau a Sychu’ yn nodi:

  • GWIRIO: Gwiriwch eich offer, eich cwch a’ch dillad ar ôl gadael y dŵr, gan edrych am laid, anifeiliaid dyfrol neu blanhigion. Gwaredwch bopeth y dewch o hyd iddo a’i adael ar y safle. 
  • GLANHAU: Glanhewch bopeth yn drylwyr cyn gynted ag y gallwch, gan roi sylw i ardaloedd sy’n llaith neu’n anodd eu cyrraedd. Defnyddiwch ddŵr poeth os gallwch chi.
  • SYCHU: Sychwch bopeth am gymaint o amser â phosib cyn ei ddefnyddio mewn man arall oherwydd gall rhai anifeiliaid a phlanhigion goresgynnol oroesi am fwy na phythefnos mewn amodau llaith.

Mae nifer o ffyrdd y gall defnyddwyr dŵr gael rhagor o wybodaeth a rhoi gwybod am unrhyw rywogaethau anfrodorol maen nhw’n eu gweld; mae'r rhain yn cynnwys:

Meddai Ben hefyd:

“Mae hon yn broblem ledled Cymru ac ymhlith y rhywogaethau sy’n peri’r pryder mwyaf mae berdys rheibus a chregyn gleision rhesog ym Mae Caerdydd; berdys rheibus yng nghronfa ddŵr Eglwys Nunydd ym Mhort Talbot; llyfrothod uwchsafn mewn sawl safle yn Llanelli a chimwch America sydd wedi’i weld oddi ar arfordir Pwllheli a Chonwy.
“Mae planhigion goresgynnol fel corchwyn Seland Newydd, sydd wedi’u gweld mewn sawl safle yng Nghymru, hefyd yn rhan o’r broblem.
“Mae cael gwared â’r plâu hyn yn ddrud ac yn anodd ond gallwn helpu i gyfyngu ar eu lledaeniad drwy ddilyn y canllawiau Gwirio, Glanhau a Sychu.
"Gall y weithred syml o gludo un darn o blanhigyn neu anifail i ardal arall gael effaith ddinistriol ar ein rhywogaethau brodorol, a all yn ei dro gael effaith andwyol ar dwristiaeth, hamdden a busnesau sy'n dibynnu ar y dyfroedd hyn.
"Unwaith y bydd rhywogaeth anfrodorol yn cyrraedd lleoliad newydd gall fod yn anodd ac weithiau'n amhosib ei gwaredu felly ei hatal rhag cyrraedd yw'r ffordd orau o ddiogelu ein hamgylchedd naturiol am genedlaethau i ddod."