Wedi'i ddal ar gamera! Apêl gyhoeddus i helpu i ddal tipiwr anghyfreithlon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ar y cyd â Chyngor Sir Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, yn gofyn i bobl helpu i adnabod unigolyn yr amheuir ei fod wedi cyflawni troseddau tipio anghyfreithlon lluosog y llynedd.

Mae lluniau camera a gasglwyd gan Liberton Investigations, CNC a'r cyngor wedi datgelu unigolyn mewn cerbyd tipio Transit, â’r rhif cofrestru ND06 LWZ, yn tipio gwastraff cartrefi yn anghyfreithlon ar dir ar ddwy ochr y ffin yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Digwyddodd y troseddau yn ystod mis Medi a mis Hydref y llynedd, yn y lleoliadau canlynol:

2 Medi – Tir wrth ymyl y ffatri LG yng Nghoedcernyw, Casnewydd
3 Medi – Tir wrth ymyl y ffatri LG yng Nghoedcernyw, Casnewydd
6 Medi - Gweithdai Ffordd Lamby, Ffordd Lamby, Caerdydd
10 Medi - Parc Busnes Waterside, Ffordd Lamby, Caerdydd
7 Hydref - Ffordd Hendre, Caerdydd

Cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd rhwng CNC, Cyngor Sir Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, ond nid yw wedi gallu adnabod yr unigolyn dan amheuaeth gan y credir bod y cerbyd dan sylw yn defnyddio platiau ffug. 

Gyda'i gilydd, mae'r sefydliadau bellach yn troi at aelodau’r cyhoedd i ofyn am eu cymorth i adnabod yr unigolyn dan amheuaeth a nodwyd ar y camerâu.

Dywedodd Pamela Jordan, Uwch Swyddog Taclo Tipio Cymru:

"Mae'n amlwg nad oes gan y sawl a dipiodd y gwastraff hwn dro ar ôl tro fawr o barch at yr amgylchedd na'r cymunedau a'r busnesau lleol sy'n gorfod wynebu'r broblem.
"O'r ymddygiad rydyn ni wedi'i weld, rydyn ni'n credu'n gryf ei fod yn debygol o wneud hyn eto, os nad yw wedi gwneud yn barod, a dyna pam rydyn ni mor awyddus i ganfod yr unigolyn i'w holi.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr unigolyn sydd wedi'i ddal ar gamera, byddem yn eich annog i gamu ymlaen a chysylltu â'n llinell gymorth digwyddiadau ar 03000 65 3000.
"Cofiwch, fel deiliad tŷ, os byddwch yn talu rhywun i fynd â’ch gwastraff ymaith, mae angen i chi gadarnhau ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Os yw eich gwastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, a bod modd ei olrhain yn ôl i chi, gallech wynebu dirwy diderfyn ac erlyniad."

Gall pobl gadarnhau cludwyr gwastraff cofrestredig drwy fynd i naturalresources.wales/checkwaste?lang=cy 

Ceir rhagor o wybodaeth am dipio anghyfreithlon a dyletswydd gofal deiliaid tai yn flytippingactionwales.org/cy