Adeiladu ar lwyddiant…mwy o waith i adfer afonydd Eryri

Mae gwaith ar y gweill i adfer tair afon yn Eryri fel eu bod yn llifo'n naturiol ac yn denu mwy o fywyd gwyllt.

Mae'n adeiladu ar waith diweddar i adfer rhan o Nant y Gwryd ger Capel Curig. Yma, mae arwyddion o welliant eisoes, gyda'r afon yn defnyddio ei gorlifdir ar adegau o lif uchel a chynefinoedd gwell i bysgod silio.

Afon Machno, Caletwr a darn arall o Nant Gwryd sydd dan sylw y tro yma. Mae'r cyfan yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda pherchnogion tir i wella amgylchedd dalgylch Uwch Conwy i bobl a bywyd gwyllt - ardal sy'n 336 km2 o ran maint.

Esbonia Dewi Davies, Rheolwr Prosiect Dalgylch Uwch Conwy: “Mae gan rannau o’r afonydd hyn, a addaswyd yn y gorffennol, lannau serth sy’n atal dŵr rhag cyrraedd y gorlifdir naturiol. Trwy ostwng rhannau o'r glannau a symud cerrig mawr, bydd yr afonydd yn gallu ymdroelli'n naturiol unwaith eto. Bydd arafu'r llif yn helpu i leihau risg llifogydd mewn ardaloedd sy'n is i lawr y dyffryn.
“Bydd mwy o amrywiaeth strwythurol yn yr afonydd, gan gynnwys ardaloedd lle gall dŵr gronni, yn wych i bysgod fel brithyll brown. Bydd y dyfrgi yn elwa hefyd yn ogystal â chyfoeth o bryfed ac adar.”

Mae'r gwaith, i'w gwblhau erbyn 15 Hydref, yn cael ei wneud gan gontractwyr lleol, C T Roberts o Llanrwst, yn cynnwys:


  • Tynnu pont droed (gweler y llun) o Afon Machno ar fferm Carrog, fel rhan o ail-alinio glannau'r afon i wella llif naturiol yr afon ac ailgysylltu â gorlifdiroedd - gwaith a ddechreuodd yn 2019. Roedd y bont yn cyfyngu'r llif a'r prosesau naturiol. Caiff y bont ei rhoi nôl mewn amser mewn lleoliad gwell, yn uwch i fyny’r afon.
  • Gan weithio gyda'r tirfeddiannwr, ar dop dalgylch Afon Caletwr, bydd y gorlifdiroedd yn cael eu defnyddio eto. Bydd lleihau ynni’r afon yn lleihau erydiad ar y caeau fferm mwy cynhyrchiol islaw.
  • Yn Nant y Gwryd bydd gwaith gyda thirfeddianwyr mewn dau le yn gwella ymhellach llif yr afon a chynefinoedd ar gyfer pysgod.

Yna bydd glannau'r afonydd yn cael eu ffensio fel y gellir plannu coed i greu coridor gwell ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd hyn yn arafu mwy fyth ar lif y dŵr ac yn rhoi cysgod yn yr haf a chadw tymeredd yr afon yn is. Mae mesurau fel hyn sy’n atal da byw rhag mynd i mewn i afonydd hefyd yn helpu i wella ansawdd dŵr.

Ychwanegodd Dewi: “Dim ond rhan o’n gwaith yw hwn, gyda chymorth amhrisiadwy tirfeddianwyr lleol, i ofalu am amgylchedd dalgylch Uchaf Conwy trwy ddod o hyd i atebion cynaliadwy sy’n dod â llawer o fuddion i bobl a byd natur.”

Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen Tir Afon a ariennir fan Lywodraeth Cymru yn nalgylch Uwch Conwy a Rhaglen Riverlands yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fan hyn: Prosiect Dalgylch Uwch Conwy | National Trust