Cyfleuster arbennig i fagu rhywogaethau prin

Misglod perlog

Bydd y gwaith o adeiladu cyfleuster newydd i fagu misglod perlog yn Neorfa Cynrig ger Aberhonddu yn dechrau ddydd Mawrth 24 Ionawr.

Mae Deorfa Cynrig yn gyfleuster a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n darparu nifer o raglenni magu mewn caethiwed ar gyfer anifeiliaid dyfrol sydd mewn perygl difrifol. 

Mae'r rhain yn cynnwys eogiaid, torgochiaid yr Arctig, brithyllod, misglod perlog, cimychiaid afon crafanc wen, llygod pengrwn y dŵr a llysywod.

Mae'r Ddeorfa yn un o ddim ond dwy sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru ac yn un o ddim ond dwy ddeorfa arbenigol ar gyfer misglod perlog yn y DU (mae'r llall yn Cumbria).

Mae gwaith adeiladu i uwchraddio’r cyfleuster yn cael ei ariannu gan Brosiect y Pedair Afon sy’n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chyllid gan raglen LIFE yr UE dros bum mlynedd. Darperir cymorth ariannol ychwanegol hefyd gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

Bydd y gwaith yn gweld adeilad newydd tebyg i ysgubor amaethyddol yn cael ei godi ar y safle er mwyn darparu lle ychwanegol ar gyfer magu misglod perlog a physgod. Bydd y cyfleuster newydd yn sicrhau bod y gwasanaethau yn y ddeorfa o safon uchel ac yn cydymffurfio â gofynion modern.

Meddai Dr John Taylor, arbenigwr technegol CNC ar gyfer pysgodfeydd a dyframaeth:

“Rydym yn gweithio’n galed i wrthdroi’r dirywiad dramatig yn y rhywogaeth hon. Bydd cael cyfleusterau pwrpasol yn ein galluogi i fireinio agweddau technegol y broses fagu er budd y rhywogaethau prin a phwysig hyn.”

Mae Cynrig yn bodoli fel arf cadwraeth gyda'r nod o adfer poblogaethau dyfrol a ddifrodwyd gan weithgareddau dynol.

Mae poblogaethau o fisglod perlog mewn perygl difrifol yng Nghymru ac yn cael trafferth goroesi oherwydd dirywiad cynefinoedd a gostyngiad mewn stociau pysgod. 

Mae eu cylch bywyd cymhleth yn cynnwys cyfnod parasitig lle mae glochidia misglod perlog yn glynu wrth dagellau eogiaid neu frithyllod. Mae poblogaethau iach o eogiaid neu frithyllod yn hanfodol, felly, ar gyfer cyfnodau cynnar eu bywyd.

Fel misglod ifanc, maen nhw’n treulio 10 mlynedd wedi'u claddu yng ngraean afonydd a gall misglod llawn dwf fyw am fwy na 100 mlynedd, gan dyfu i chwe modfedd o hyd. Mae arnynt angen afonydd â dŵr glân, ocsigenedig a graean sefydlog.

Yn 2018 bu rhaglen fagu’r ddeorfa yn llwyddiannus wrth fridio misglod perlog y tu hwnt i chwe mis oed am y tro cyntaf.

Roedd y llwyddiant hwn yn ganlyniad i dechneg newydd o fagu mewn bocsys, a dreialwyd gan weithwyr yn y Weriniaeth Tsiec, gan ddefnyddio gwaddod ac algâu am yr 8-10 mis cyntaf ym mywyd y misglod ifanc.

Dywedodd Susie Kinghan, Arweinydd Tîm Prosiect Pedair Afon LIFE:

“Bydd uwchraddio’r cyfleusterau yn barhad naturiol i’r gwaith arloesol sy’n digwydd yng Nghynrig ar hyn o bryd. Bydd hyn hefyd yn cefnogi gwaith ein Prosiect i adfywio poblogaethau mwy o’r molysgiaid hynafol a phrin hyn yn afonydd Cymru.”

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Mawrth 24 Ionawr ac yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2023.

I gael y newyddion diweddaraf am y prosiect, dilynwch Brosiect y Pedair Afon ar Facebook a Twitter neu ewch i wefan y prosiect https://naturalresources.wales/4RiversforLIFE?lang=cy