Pam y dylem ni i gyd gamu i’r cyfrwy ar gyfer Wythnos y Beic 100

Eleni, mae’n ganmlwyddiant Wythnos y Beic (5 i 11 Mehefin), felly mae ein hymgynghorydd iechyd Steven Meaden yn esbonio sut mae beicio nid yn unig yn ffordd wych o wella eich iechyd corfforol a meddyliol ond hefyd yn ddull trafnidiaeth ecogyfeillgar a all helpu i leihau sŵn, aer, llygredd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dyma’r achos dros feicio a pham y dylem ni i gyd neidio i’r cyfrwy…

Mae beicio o les i'ch iechyd

Gall beicio wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd a lleihau'r risg o glefydau cronig fel gordewdra, diabetes, clefyd y galon a chanser.

Yn wir, fe wnaeth astudiaeth a gyhoeddwyd yn y New England Journal of Medicine ganfod fod gan bobl sy'n beicio i'r gwaith 40% yn llai o risg o farw cyn eu hamser na'r rhai sy'n gyrru neu'n cymryd trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae beicio’n ffordd dda o'ch helpu i gael y lefel briodol o ymarfer corff, yn ôl argymhellion y GIG, naill ai drwy ei ffitio i'ch trefn ddyddiol neu drwy fynd am deithiau hirach yn eich amser hamdden.

Yn CNC, rydym am i bawb allu elwa o’n llwybrau beicio a’n llwybrau beicio mynydd, a dyna pam rydym yn creu ffilmiau ar gyfer y llwybrau i helpu defnyddwyr offer addasol i ddewis llwybr sy'n addas iddyn nhw.

Mae beicio yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd

Drwy ddewis beicio yn lle gyrru car, byddwch yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn lleihau eich ôl troed carbon.

Yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Beicwyr Ewrop, mae beicio yn ddull trafnidiaeth carbon niwtral nad yw'n allyrru unrhyw nwyon tŷ gwydr.

Dywedodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (2019) mai trafnidiaeth yw’r ffynhonnell fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU, gan gyfrif am 27% o gyfanswm yr allyriadau yn 2017.

Mae hyn yn amlygu’r angen dybryd i drosglwyddo i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, fel beicio, i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Mae beicio yn helpu pobl eraill

Drwy feicio yn lle gyrru, rydych yn helpu i leihau llygredd aer ac yn gwella ansawdd aer, a all fod o fudd sylweddol i iechyd a lles eich cymuned.

Gall beicio hefyd helpu i leihau tagfeydd traffig a llygredd sŵn, sy’n cyfrannu’n fawr at lygredd aer, allyriadau nwyon tŷ gwydr a’n hiechyd a’n lles (Pucher a Buehler, 2012).

Mae beicio yn gwarchod yr amgylchedd naturiol

Yn ogystal â lleihau sŵn, allyriadau, gwella ansawdd aer ac iechyd a lles cyffredinol, gall beicio hefyd helpu i warchod cynefinoedd ac ecosystemau naturiol. Mae'r amgylchedd naturiol yn rhan hanfodol o feicio a dylid ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Wrth i fwy o bobl ddewis reidio ar lwybrau beicio yn hytrach nag ar y ffordd, byddwn yn creu’r angen am fwy o fannau di-draffig a bydd llawer o’r rhain yn fannau gwyrdd hefyd.

Hefyd, gall beicio helpu i hybu ymdeimlad o stiwardiaeth a chyfrifoldeb am yr amgylchedd naturiol, gan annog pobl i ofalu am y byd o'u cwmpas tra'n gofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain.

Camwch i’r cyfrwy a gwnewch wahaniaeth

Os ydych chi am roi cynnig ar feicio a chael effaith gadarnhaol ar eich iechyd a'r amgylchedd, mae sawl peth y gallwch chi ei wneud.

Yn gyntaf, ystyriwch feicio yn lle gyrru ar gyfer teithiau byr, fel mynd ar neges neu gymudo i'r gwaith. Mae gan lawer o weithleoedd gynllun beicio i'r gwaith sy'n cynnig gostyngiadau ar feiciau.

Yn ail, dewiswch reidio ar lwybrau beicio yn hytrach nag ar y ffordd i warchod ein mannau gwyrdd trwy ddangos eu pwysigrwydd i gymunedau.

Yn olaf, ystyriwch ymuno â chlwb neu grŵp beicio sy'n hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol i ddechrau arni a dal ati ar y gwefannau hyn:

Gyda chymaint o resymau i feicio, mae Wythnos y Beic 100 yn amser perffaith i gamu i’r cyfrwy a chydweithio i warchod yr amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cyfeiriadau

Pucher, J., a Buehler, R. (2012). City cycling. Gwasg MIT

Ffederasiwn Beicwyr Ewrop. (2011). Cycling, health and safety. Adalwyd o https://ecf.com/resources/cycling-health-and-safety

New England Journal of Medicine. (2017). Commuting by bike cuts heart disease and cancer risk. Adalwyd o https://www.nejm.org/doi/full/10.1056/nejmoa1609691 

Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (2019). Net Zero – The UK’s contribution to stopping global warming. Adalwyd o https://www.theccc.org.uk/publication/net-zero-the-uks-contribution-to-stopping-global-warming/

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru