Creu cyfleoedd beicio i bawb ar lwybrau CNC

Yn ystod Wythnos y Beic eleni (5 – 11 Mehefin), mae Rachel Parry o’r tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored yn sôn am y modd y mae CNC yn sicrhau bod beicio yn fwy cynhwysol i bobl ag amrywiaeth eang o alluoedd.

Fel un o brif ddarparwyr llwybrau beicio yng Nghymru, mae staff hamdden a rheolwyr safleoedd ar draws ystâd CNC yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein llwybrau anhygoel yn fwy hygyrch i fwy o bobl.

Un agwedd ar y gwaith hwn fu pennu cyfleoedd mwy heriol i bobl o bob gallu gael mentro allan a phrofi amrywiaeth ein safleoedd trwy ddefnyddio offer addasol ar ein llwybrau cerdded a beicio.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd. Mae datblygiadau mewn offer o’r fath yn golygu y gall mwy a mwy o bobl fwynhau beicio mewn amrywiaeth ehangach o amgylcheddau – yn ddi-os, dyma rywbeth y dylid ei ddathlu yn ystod Wythnos Genedlaethol y Beic!

Disgrifio – dyna’r nod!

Rydym yn parhau gyda gwaith a roddwyd ar y gweill rhyw ddwy flynedd yn ôl – sef disgrifio llwybrau mewn ffordd weledol er mwyn i bobl o bob gallu, eu teuluoedd a’u cyfeillion gael syniad da a yw’r llwybrau’n hygyrch iddynt, cyn iddynt gychwyn ar eu taith.

Yn fy mlog diweddaraf (Helpu ymwelwyr ag anableddau i benderfynu a yw llwybr yn addas iddyn nhw), soniais am y prosiect peilot a gynhaliwyd gyda’r Cwmni Buddiannau Cymunedol Experience Community i greu ffilmiau’n ymwneud â rhai o’n llwybrau, gan ychwanegu at wybodaeth a gyflwynir yn barod i ymwelwyr.

Gan weithio gyda rheolwyr safleoedd lleol, aethom ati i lunio rhestr fer o lwybrau nad oeddynt yn syrthio’n hwylus i’r categori hygyrch, ond a allai gynnig rhywfaint o her i bobl ag anableddau a chynnig cyfle i bobl weld mwy ar dirweddau Cymru.

Mae rhai o’r llwybrau hyn yn llwybrau beicio a chyd-ddefnyddio, mae rhai wedi’u neilltuo ar gyfer beicio mynydd ac mae llawer yn wych ar gyfer offer addasol. Felly, mae Wythnos y Beic yn golygu y gallwn dynnu sylw at y cyfleoedd sydd gennym i fwynhau amrywiaeth o dirweddau – yn cynnwys Coedwig Niwbwrch, parc coediog Coed y Brenin ac amgylcheddau mynyddig Coedwig Beddgelert a Pharc Coedwig Afan.

Ar ein tudalen we Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol ceir ffilmiau’n dangos llwybrau hirach a mwy heriol y gall pobl ag offer addasol eu defnyddio. Dengys y ffilmiau sut fath o arwyneb sydd ar y llwybrau ynghyd â graddiannau a dringfeydd i fyny ac i lawr gelltydd – a chaiff popeth ei ddisgrifio gan unigolion anabl wrth iddynt deithio ar hyd y llwybrau. Mae trosleisiau ac is-deitlau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pob ffilm, felly maent yn ddigidol hygyrch hefyd.

Ymhellach, mae’r tudalennau gwe Ymweliadau hygyrch yn cynnwys manylion llawn am lwybrau cerdded sy’n addas i gadeiriau olwyn ac sy’n rhydd o rwystrau – llwybrau sy’n addas i bawb.

Canllawiau ar gyfer creu mynediad cynhwysol

Yr hyn sy’n sail i’r gwaith hwn i gyd yw ein canllawiau ar y mynediad lleiaf rhwystrol, sef Trwy Bob Dull Rhesymol, lle nodir egwyddorion ac enghreifftiau o arferion da yn ymwneud â gwella mynediad i bawb trwy anelu at y safonau uchaf posibl wrth wella mynediad.

Mae’r canllawiau hyn wrthi’n cael eu diwygio mewn partneriaeth â Natural England a’r Sensory Trust gan fod y maes hwn yn datblygu’n gyson. Bydd y ddogfen newydd ar gael yn ddiweddarach eleni a bydd yn cynnwys astudiaeth achos ddiweddar yn ymwneud â llwybr beicio mynydd cynhwysol y ‘MinorTaur’ yng Nghoed y Brenin – sef enghraifft ysbrydoledig o’r modd y gellir cynnig her ac antur i amrywiaeth o alluoedd.

Ym mis Ebrill lansiwyd canllawiau’r DU, sef Outdoor Accessibility Guidance. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys manylion am wahanol fathau o seilwaith, yn cynnwys llwybrau, sut i gynllunio mannau eistedd a gorffwys, a chuddfannau gwylio adar.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnawn i wella mynediad i bawb:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am waith Experience Community, cymerwch gipolwg ar wefan Experience Community er mwyn gweld rhai o’r ffilmiau a luniwyd gan y cwmni ar gyfer sefydliadau fel Yorkshire Water, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharciau Cenedlaethol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru