Wythnos Dysgu Awyr Agored 2022

Yr wythnos hon (28 Mawrth – 3 Ebrill) mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn dychwelyd.

Cynhaliwyd yr Wythnos am y tro cyntaf yn 2019 mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored.  

Y nod yw annog ac ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd ledled Cymru i osod dysgu awyr agored wrth graidd gweithgareddau bob dydd yr ysgol a'r cartref ac elwa drwy wneud hynny 

Rydym wedi cael llwyddiant sylweddol dros y blyneddoedd diwethaf o ran codi proffil dysgu awyr agored, yn arbennig yn yr amgylchedd naturiol, fel arfer dysgu cydnabyddedig. 

Trwy ein gwaith yn dylanwadu ar ddatblygiad y Cwricwlwm i Gymru, mae dysgu awyr agored bellach yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru am ei gyfraniad at hyrwyddo cyflawniad, a lles corfforol a meddyliol.   

Yn sicr, mae'r pandemig wedi gwneud pawb ohonom yn fwy ymwybodol nag erioed o ba mor bwysig yw treulio amser yn yr awyr agored a chryfhau ein cysylltiad gyda byd natur.  

Mae Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i ddangos sut y gallwn oll fanteisio o ddysgu yn, dysgu am, a dysgu ar gyfer yr amgylchedd. Ac mae yna nifer o resymau i gymryd rhan... 

Mae'n llesol i ni 

Mae tystiolaeth yn dangos fod dysgu awyr agored yn fanteisiol iawn o ran iechyd a lles, o atal gorbwysau i leihau symptomau straen ac ADHD. Mae hefyd yn hybu sgiliau craidd fel creadigrwydd, datrys problemau a chyfathrebu, yn ogystal â gwella cyflawniad.  

Mae'n llesol i'r amgylchedd 

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r byd o'n cwmpas, sy'n arwain at ymddygiad amgylcheddol positif yn yr hirdymor.  

Does dim cyfyngiad oed 

Nid rhywbeth ar gyfer ysgolion yn unig yw dysgu awyr agored! Mae ystafell ddosbarth fwyaf Cymru ar gael i bawb o bob oed – mae yna bob amser rywbeth newydd i'w ddysgu a gwell cysylltiad gyda natur i'w fwynhau. 

Mae'n hawdd ac yn hwyl 

Mesur coed, adnabod rhywogaethau, dysgu am afon leol, creu celfwaith naturiol, neu fynd am dro yn y parc... mae cymaint o ffyrdd y gallwn brofi a dysgu am yr amgylchedd. 

Am fwy o wybodaeth a gweithgareddau i'w mwynhau dros yr wythnos nesaf a thu hwnt, ewch i'n tudalennau Addysg, Dysgu a Sgiliau ar y wefan, neu ewch i sianel YouTube CNC i bori trwy'n llyfrgell fideos. 

Gallwch hefyd gymryd rhan trwy rannu eich profiadau yn ystod yr wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #WythnosDysguAwyrAgored

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru ar gael yma

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru