Digwyddiad i arwyr lleol yng Ngogledd Cymru’n dod â chymunedau at ei gilydd

Cynhaliwyd digwyddiad teuluol am ddim i roi sylw i arwyr cymunedol lleol yn Sgwâr y Frenhines Wrecsam ddydd Sadwrn 28 Mai.

Yma, mae Philip Barrett, Swyddog Amgylchedd CNC yn Nhîm Sir Ddinbych, yn ymuno â ni i rannu rhai o'r uchafbwyntiau...

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i wasanaethau cyhoeddus ymgysylltu â theuluoedd lleol a rhannu sut maen nhw’n mynd ati i ddiogelu cymunedau ledled Gogledd Cymru. Ymunodd Swyddogion CNC ag arwyr o’r heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans, timau achub mynydd a'r Fyddin Brydeinig, o blith eraill, a gymerodd ran yn y digwyddiad.

Roedd y digwyddiad yn gyfle unigryw i'r cyhoedd gyfarfod â'u harwyr cymunedol lleol wyneb yn wyneb, gydag ystod eang o weithgareddau'n digwydd drwy gydol y dydd. Roedd y rhain yn cynnwys arddangosiadau byw gan ddiffoddwyr tân ac ymarferion gyda milwyr a cherbydau.

Roeddem yn falch o allu dangos y gwaith partneriaeth sy'n digwydd rhwng CNC a'r Gwasanaethau Tân ac Achub i helpu i leihau unrhyw effaith bosib ar yr amgylchedd ac iechyd pobl yn dilyn digwyddiadau.

Roedd gennym gerbyd digwyddiadau i ddangos offer atal llygredd sylfaenol ynghyd â phecynnau samplu. Ar y cyd â’r rhain roedd uned diogelu'r amgylchedd, a ddarperir i'r gwasanaeth tân gan CNC i gynorthwyo yn ystod digwyddiadau mwy cymhleth.

Dangosodd swyddogion CNC hefyd yr effaith y gall rhai llygryddion ei chael ar ein hafonydd. Gwnaed hyn drwy roi rhywfaint o ddŵr lliw mewn poteli. Yna i efelychu llygryddion defnyddiwyd gwyn ar gyfer llaeth, llwyd ar gyfer carthion, du ar gyfer dŵr ffo o safle tân a brown ar gyfer gwaddodion yn sgil gwaith mewn afonydd.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a arweiniodd y gwaith o drefnu'r digwyddiad.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru