Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i werthuso'r achos dros Barc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae CNC wedi sefydlu tîm i arwain y gwaith hwn a fydd yn cynnwys casglu data a thystiolaeth, ac ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Dywedodd Ash Pearce, Rheolwr y Prosiect:

“CNC yw'r Awdurdod Dynodi yng Nghymru a rhaid iddo fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd.

Mae proses statudol i'w dilyn a gwblhawyd ddiwethaf yn y 1950au ac a gymerodd tua degawd. Y tro hwn mae angen i ni hefyd ystyried gwybodaeth newydd a deddfwriaeth newydd, felly rydym yn ymgorffori egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn y weithdrefn. Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, tîm cryf a thechnoleg newydd, ein nod yw cwblhau'r broses o fewn tymor presennol y Senedd (by 2026).

Mae'r llinell amser yn heriol, ond nid ydym ychwaith yn barod i fethu darparu tystiolaeth gadarn. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghoriad cyhoeddus i sicrhau ein bod yn cael y canlyniad gorau i bobl Cymru.

Ar ôl gwneud hyn, ac os yw'r dystiolaeth yn cefnogi dynodiad, yna bydd Gorchymyn Dynodi yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Bydd angen i Weinidogion ystyried hyn a phenderfynu a ydynt am gadarnhau, gwrthod neu amrywio'r Gorchymyn. Os caiff ei gadarnhau yn 2026, bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn sefydlu pedwerydd Parc Cenedlaethol Cymru a'r cyntaf yng Nghymru ers bron i 70 mlynedd!”.

I gael gwybod mwy, ewch i dudalen wybodaeth y prosiect

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru