Datblygu dawn tyfu planhigion gydag Ysgol Gynradd Greenway

Mae Ysgol Gynradd Greenway yn gwasanaethu cymuned drefol yng nghanol ein prifddinas, Caerdydd. Mae’r ysgol wedi’i hamgylchynu gan dai a ffyrdd sy’n gwneud ei thir yn fan gwyrdd gwerthfawr ar gyfer chwarae, ymlacio a dysgu. Gan gydnabod hyn, ymrwymodd yr ysgol i sicrhau bod y man gwyrdd yn gweithio mor galed â phosibl er mwyn annog y disgyblion i ddysgu’n weithredol am gynhyrchu bwyd a garddio, trwy’r Cynllun Maes Chwarae Bwytadwy – partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Grow Cardiff, a Trees for Cities.

Cafodd digon o arian o gyllideb yr ysgol ei glustnodi, gan ganiatáu amser penodol i gynllunio sut y byddai gweithgareddau garddio yn cyflwyno dysgu sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae hyn wedi blodeuo wrth i ddisgyblion Ysgol Gynradd Greenway gael y cyfle i faeddu eu dwylo 5 prynhawn yr wythnos, gyda’u hathro a’u garddwr preswyl, Simon Evans, sy’n eu harwain i fyny llwybr yr ardd er mwyn eu trwytho â sgiliau garddio a thyfu bwyd gydol oes. 

 

Siaradodd Karen Clarke, ein Prif Gynghorydd Arbenigol: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda Simon i ddysgu mwy.

Meddai Simon, “Rwy’ hefyd yn gwneud gwaith cyflenwi dros gydweithwyr sy’n sâl neu allan o’r dosbarth am unrhyw reswm, ac mae hyn yn arbed cyfran dda o’r arian sy’n cael ei wario ar fy nghyflogi i fel athro ychwanegol i’r ysgol.  Rwy’ bob amser wedi bod yn hoff o arddio a natur. Roedd rhandir gyda fi ar un adeg, ac fe helpais i ddatblygu ardal awyr agored Blwyddyn 1 a 2 yn ystod fy amser fel athro Blwyddyn 1.  Rwy'n meddwl mai defnyddio arbenigeddau athrawon mewn ffordd fwy cyfeiriedig fydd y ffordd ymlaen mewn ysgolion cynradd, fel y mae mewn ysgolion uwchradd.  Mae gennym Bennaeth blaengar iawn sy’n dda iawn am weld cyfleoedd a rhoi strategaethau ar waith y tu allan i’r normau arferol.”

Mae'r dosbarthiadau i gyd yn ymwneud â garddio ar rota bythefnosol, ac mae eu profiadau dysgu yn cael eu tracio a'u hasesu. Mae Simon wedi datblygu taflen ymarferol i fonitro dysgu’r plant, ac mae hwn yn gysylltiedig ag un neu fwy o’r Camau Cynnydd Maes Dysgu a Phrofiad yng Nghwricwlwm Cymru. Mae'n cysylltu â Taith360, sef offeryn tracio ar-lein sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd. Mae posibiliadau di-ben-draw ar gyfer dysgu trwy arddio ac mae Simon yn nodi “Rwy'n credu bod garddio o’r pwys mwyaf i blant, fel eu bod wir yn gwerthfawrogi o ble y daw ein bwyd ac yn cydnabod y gwaith a'r amser sy'n cael ei roi er mwyn ei dyfu a'i gynaeafu. Mae garddio hefyd yn cael effaith hynod leddfol, sylfaenol ar ymddygiad ac mae’n wych ar gyfer lles cyffredinol.”

 

Mae'r ysgol yn ffodus bod ganddi lawer o ofod awyr agored. Mae'r Adran Feithrin a'r Derbyn yn rhannu ardal awyr agored, gan ddefnyddio gwely rhandir wedi’i godi. Mae Blwyddyn 1 a 2 yn rhannu ardal awyr agored fawr, gan gynnwys rhai gwelyau llysiau, a set dan orchudd o welyau wedi’u codi oddi mewn i gawell weiren i gadw’r adar draw. Mae ganddyn nhw hefyd ardd berlysiau ac maen nhw'n datblygu gwely peillio. Mae perllan o goed ffrwythau i'r naill ochr, yn tyfu afalau, gellyg, eirin, eirin melyn, cwins ac afalau agored (medlars). Mae’r Cae Chwarae Bwytadwy o welyau wedi’u codi ar y brif iard goncrit, ac mae gan bob dosbarth o’r Derbyn i Flwyddyn 6 wely y maen nhw’n gyfrifol amdano. Mae sied botio gerllaw.

Yn ystod y flwyddyn lawn gyntaf o blannu bu’r ysgol yn treialu cymaint o lysiau â phosibl, ac yn eu plith letys, pys, tomatos, ffa llydan, ffa Ffrengig, ffa dringo, brocoli, blodfresych, artisiogau glôb, india-corn, pwmpenni, marro, corbwmpen (courgette), pannas, moron, erfin, betys, radis, salsify, sbigoglys, chard Swisaidd, gwrd, mangetout, cennin, winwns, garlleg, tatws, ysgewyll Brwsel, cêl, kohlrabi, seleriac, rhuddygl poeth a mwy. Yn ogystal â ffrwythau'r berllan fe dyfon nhw fefus, mafon, cyrens duon, cyrens coch, eirin Mair, cyrens gwyn, jostaberries a riwbob. Pwrpas yr amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau oedd ceisio annog y plant i ehangu eu profiad, ac nid mynd am y moron yn unig! Ond bydd Simon yn gwerthuso beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb weithio gyda’r disgyblion wrth i amser fynd yn ei flaen.

Mae'r plant yn dewis ac yn paratoi'r holl gynnyrch eu hunain, ac yn araf bach maen nhw’n dod yn fwy parod i brofi bwydydd newydd. Mae Simon wedi darganfod bod cael y plant i gymryd rhan mewn paratoi bwydydd cyfarwydd fel sorbets, neu 'wymon' crensiog o fresych neu gêl, yn gymhelliant ychwanegol iddyn nhw roi cynnig ar bethau newydd. Mae e hefyd yn rhagweld y bydd sgiliau coginio yn dod yn rhan gynyddol bwysig o'r cwricwlwm yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'n awyddus i'r plant ddatblygu sgiliau a gwybodaeth wrth ddefnyddio'r rhain gyda'r cynnyrch y maen nhw wedi'i gynaeafu.

Yr her fwyaf y daeth Simon ar ei thraws hyd yn hyn yw amser ac amseru - amser i hau, plannu, tyfu a chynaeafu pan yw natur yn mynnu, ac amseru i sicrhau bod y plant yn gweld yr holl broses. Mae Simon wedi creu math o daflen 'mynd-ati' i'w helpu i gynllunio, gan amlinellu'r tasgau posibl sydd i’w cyflawni bob mis e.e. ym mis Ebrill: hau tatws had wedi’i paratoi. Mae e a’r plant yn ddiolchgar iawn bod staff yr ysgol yn gallu helpu drwy fynd â hambyrddau o eginblanhigion adref dros wyliau’r ysgol, a rhannu dyletswyddau dyfrio dros wyliau’r haf.

Mae Simon yn cadw cyfathrebiadau yn agored, gan ddweud “Caiff yr holl weithgareddau eu postio ar wefan yr ysgol ac ar Twitter, felly mae’r rhieni’n cael gwybod am y gweithgareddau diweddaraf. Mae’r staff yn cael gwybod am yr hyn sy'n digwydd pan fydda’ i’n tynnu plant allan o'r dosbarth. A gall pawb edrych ar yr albymau lluniau anodedig, sy'n cael eu diweddaru bob pythefnos. Mae pawb i weld yn gefnogol iawn.”

Y syniad gorau gan Simon yw chwilio am gefnogaeth gan gydweithwyr mwy profiadol, aelodau'r gymuned, ffrindiau a theulu, os nad oes gennych unrhyw wybodaeth am arddio. A phecyn cymorth gwych yw gwefan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, lle gallwch chwilio fesul planhigyn am yr holl wybodaeth sydd ei hangen, o sut a phryd i hau, hyd at waith cynnal a chadw, a phryd i gynaeafu.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru