Cyfleoedd Cyffrous i ymuno â'r Tîm Rheoleiddio Diwydiant

Rydym yn cyflogi! A ydych yn frwd am ein hamgylchedd? A oes gennych sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cryf i gael effaith wirioneddol?

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio i nifer o rolau cyffrous sydd wrth wraidd sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy fel y gall cenedlaethau’r dyfodol elwa arnynt. 

Beth yw hanfod Rheoleiddio Diwydiant?

O gemegau, i fwyd a diod, i fetelau, cynhyrchu pŵer, papur a thecstilau, i sment a mwynau a thirlenwi a thrin gwastraff, mae tirwedd ddiwydiannol Cymru yn amrywiol a bydd y rolau hyn ar flaen y gad o ran arloesi wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd i gyrraedd targedau Sero Net.

Mae'r tîm Rheoleiddio Diwydiant yn ganolog i warchod a gwella’r amgylchedd trwy reoleiddio’r sector diwydiannol yn effeithiol ac yn effeithlon gan ddefnyddio amrywiaeth o offer rheoleiddio sydd ar gael. Rydym yn asesu cydymffurfedd â Thrwyddedau Amgylcheddol a safonau diwydiant trwy gyfuniad o ymweliadau safle ac adolygiadau desg o adroddiadau.

Un diwrnod efallai y bydd ein swyddogion yn arsylwi ar waith peirianneg mewn safle tirlenwi a'r wythnos ganlynol efallai y byddant yn archwilio'r gwaith o weithgynhyrchu papur neu ddur! Mae gan y rôl hefyd elfen adweithiol, gan ymateb i ymholiadau gan amrywiaeth o bartïon allanol ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.

Pam ymuno â'r Tîm Rheoleiddio Diwydiant?

Yn CNC, mae'r tîm wrth galon y gwaith o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy fel y gall cenedlaethau’r dyfodol elwa arnynt. Mae'r tîm yn unedig gan nod cyffredin ac yn canolbwyntio ar wella'r amgylchedd, a'i ddiogelu. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr rheoleiddio proffesiynol ledled y DU, mae’r tîm Rheoleiddio Gwastraff Diwydiant yn cyflawni strategaeth ddeddfwriaethol Cymru, y DU ac Ewrop.

Mae sawl cyfle ledled Cymru i ymuno â thimau Rheoleiddio Diwydiant. Os ydych yn chwilio am rôl lle mae pob diwrnod yn wahanol ac yn chwilio am heriau newydd sy'n gofyn ichi feddwl yn chwim i ddatrys problemau, chi yw'r unigolyn perffaith ar gyfer y Tîm Rheoleiddio Diwydiant.

Pa swyddi sydd ar gael? 

Mae gennym nifer o swyddi gwag ar hyn o bryd ym mhob un o’n Tîmau Rheoleiddio Diwydiant ledled Cymru.

Rydym yn croesawu ceisiadau am aml i swydd (un ffurflen gais fesul swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi). Os am secondiad trafodwch â’ch cyflogwr a chysylltwch â CNC cyn gynted â phosibl.

Swyddog Rheoleiddio Amgylcheddol

Mae rôl yr Uwch Swyddog mewn Rheoleiddio Diwydiant yn amrywiol, yn ddiddorol ac yn heriol. Cyfle perffaith i rywun sy'n angerddol am yr amgylchedd, yn awyddus i ddysgu, ac sy'n hoffi datrys problemau.

Agwedd graidd y rôl yw asesu cydymffurfedd safleoedd diwydiannol yn erbyn amodau eu Trwyddedau Amgylcheddol. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymweld â gorsafoedd pŵer, ffatrïoedd bwyd a diod, terfynellau storio olew - mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Mae angen llygad am fanylion ar ein Swyddogion, ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i feithrin perthnasoedd proffesiynol â gweithredwyr (deiliaid trwydded) nid yn unig i sicrhau cydymffurfedd â thrwyddedau, ond i annog busnesau i fynd hyd yn oed ymhellach i leihau eu heffaith amgylcheddol a sicrhau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae gennym fframwaith hyfforddi a datblygu helaeth i ddatblygu ein Huwch-swyddogion yn rheolyddion effeithiol ac effeithlon. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i arwain ar feysydd gwaith, ymuno â gweminarau cymunedol a grwpiau technegol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn safonau amgylcheddol a thechnoleg newydd, i gefnogi llwybrau gyrfa yn y dyfodol.

Dysgwch fwy am y rôl yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Swyddog Rheoleiddio Amgylcheddol x 5

Swyddog Arweiniol Rheoleiddio Amgylcheddol

Mae gan ein Harweinwyr Arbenigol lefel uwch o wybodaeth dechnegol a phrofiad o reoleiddio safleoedd diwydiannol mwy cymhleth neu ddadleuol. Byddant wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o brosesau penodol ac yn gweithredu fel arweinwyr neu gynrychiolwyr sector.

Gyda mwy o brofiad rheoleiddio, mae Arweinwyr Arbenigol yn hyfforddi ac yn mentora aelodau eraill y tîm (Uwch-swyddogion fel arfer) ar yr amrywiaeth o offer a dulliau rheoleiddio sydd ar gael i ddatrys sefyllfaoedd amrywiol a chymhleth. Mae cefnogi datblygiad aelodau eraill o'r tîm yn digwydd mewn swyddfa ac ar y safle. 

Gall rôl Arweinydd Arbenigol hefyd arwain ar y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a chysylltu â’r gymuned a chefnogi’r tîm gydag ymholiadau technegol o’r tu mewn i CNC, neu'r tu allan iddi.

Dysgwch fwy am y rôl yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Swyddog Arweiniol Rheoleiddio Amgylcheddol x 4 

Arbenigwr Rheoleiddio Amgylcheddol

Y rôl Uwch Arbenigwr yw'r un fwyaf technegol yn y timau Rheoleiddio Diwydiant gweithredol. Mae deiliaid y rolau hyn yn rheoleiddio’r safleoedd mwyaf cymhleth neu ddadleuol o dan amrywiaeth o ddeddfwriaeth, gan weithio gyda phartneriaid rheoleiddio eraill i sicrhau bod y risgiau amgylcheddol mwyaf yn cael eu nodi a’u rheoli.

Mae'r rôl Uwch-arbenigwr yn ganolog i'r tîm, gan gefnogi Arweinydd y Tîm a gweithredu fel model rôl i aelodau eraill y tîm. Mae hyfforddi a mentora yn sgiliau allweddol sy'n helpu i ddatblygu'r gymuned rheoleiddio diwydiant ehangach. Mae deiliaid y rôl yn cynrychioli CNC mewn meysydd arbenigol ar lefel y DU ac yn cysylltu’n agos â chydweithwyr wrth ddatblygu polisi a chanllawiau. 

Dysgwch fwy am y rôl yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Arbenigwr Rheoleiddio Amgylcheddol

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru