Cynllunio bioddiogelwch i atal rhywogaethau ymledol mewn chwech o Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru

Bob 8 Mehefin, dethlir Diwrnod Moroedd Y Byd, ac fel rhan o ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu cynefinoedd a rhywogaethau iachach a mwy gwydn, mae’n arwain ar waith i leihau’r risg y bydd rhywogaethau estron goresgynnol morol yn cyrraedd ac yn ymledu, a hynny mewn chwech o’n hardaloedd morol gwarchodedig. Dyma Holly Peek a Chloe Powell Jennings i esbonio:

Gydag arfordir sy’n ymestyn oddeutu 2,750 cilometr (1,700 milltir), mae Cymru’n gartref i fyrdd o greaduriaid a bywyd gwyllt brodorol yn ei moroedd, ond rydym hefyd yn gweld mwy o rywogaethau estron yn ymsefydlu yn ein dyfroedd.

Mae rhai yn ddiniwed ond mae rhai rhywogaethau sydd yn achosi trafferth, a gelwir y rhain yn Rhywogaethau Estron Goresgynnol, oherwydd eu bod yn fygythiad i’n bywyd gwyllt a’n cynefinoedd brodorol yn ogystal â’u heffeithiau posib ar ein heconomi a’n lles.

Fel rhan o waith Cyfoeth Naturiol Cymru i geisio atal a rheoli’r rhywogaethau estron goresgynnol hyn yn ein hamgylcheddau morol, rydym yn arwain prosiect sy’n canolbwyntio’n benodol ar osod cynlluniau bioddiogelwch ar waith mewn chwe Ardal Forol Warchodedig ar draws Cymru er mwyn lleihau’r perygl y bydd rhywogaethau estron goresgynnol yn cyrraedd ac yn lledaenu.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen Rhwydweithiau Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a chryfhau gwytnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru.

Mae gennym syniad da o ba rywogaethau ymledol morol sy’n bresennol yng Nghymru ac mae gennym hefyd ddealltwriaeth dda o’u heffeithiau posibl ar ein cynefinoedd a’n rhywogaethau brodorol.

Nawr mae angen i ni helpu i atal Rhywogaethau Estron Goresgynnol morol rhag cyrraedd yn y lle cyntaf ac ymledu ymhellach yng Nghymru.

Mae nifer o ffyrdd y gall rhywogaethau estron goresgynnol morol gyrraedd Cymru ac yn eu plith mae’r canlynol - cyrraedd ar gyrff cychod, mewn dŵr balast, fel cudd-deithiwr, wedi’u cario i mewn gyda stoc dyframaeth, drwy ryddhau bwriadol neu ddamweiniol a hyd yn oed ynghlwm wrth siwt wlyb neu daclau o weithgareddau chwaraeon neu hamdden.

Mewn gwirionedd, dim ond diferyn o ddŵr sydd ei angen weithiau i ledaenu rhywogaeth estron oresgynnol forol i le newydd oherwydd mae modd hefyd iddyn nhw gael eu lledaenu trwy larfâu, wyau a darnau bach.

Gall y rhywogaethau anfrodorol ymledol hyn ymsefydlu'n gyflym a lledaenu'n sydyn yn aml gan achosi niwed i rywogaethau brodorol trwy achosi dirywiad mewn cynefinoedd, ysglyfaethu, cystadlu am ofod a bwyd a hyd yn oed cyflwyno afiechydon weithiau.

Fel rhan o’r prosiect Cynllunio Bioddiogelwch Rhywogaethau Estron Goresgynnol morol, byddwn yn cynnal ymchwil gaiff ei ddefnyddio gennym i greu cynlluniau bioddiogelwch a byddwn yn eu rhoi ar waith mewn chwech o Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru – ACA Aber Afon Dyfrdwy, Afon Menai ac ACA Bae Conwy, ACA Bae Ceredigion, ACA Forol Sir Benfro, ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin ac ACA Aber Afon Hafren.

Byddwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar gyfer cynllunio bioddiogelwch yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn cymryd camau ymarferol i leihau’r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau ymledol.

Atal rhywogaethau ymledol rhag cyrraedd yn y lle cyntaf yw'r peth gorau o bell ffordd y gallwn ei wneud ac yn enwedig mewn amgylcheddau morol oherwydd os bydd rhywbeth yn dod i mewn ac yn cydio, gall fod yn wirioneddol anodd cael gwared arno.

Mae rhai o’r rhywogaethau estron goresgynnol sy’n peri pryder yn amgylcheddau morol Cymru yn cynnwys:

Ewin Mochyn – yn wreiddiol o America, fe'i cyflwynwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ynghlwm wrth wystrys ac mae wedi bod yn ymledu o amgylch yr arfordir. Mae'n ffurfio cytrefi trwchus, gyda’r brennig yn pentyrru ar bennau ei gilydd. Byddan nhw’n cystadlu am ofod ac yn mygu rhywogaethau brodorol ac mae modd iddyn nhw newid y cynefin yn llwyr. Mae'r rhywogaeth wedi bod yn lledaenu'n araf o amgylch yr arfordir ac mae pryderon ynghylch yr ymlediad yng Ngogledd Cymru.

Crancod manegog Tsieina - cramennog â chrafanc flewog sy'n gallu achosi difrod i lannau afonydd, cystadlu â rhywogaethau brodorol, tagu allfeydd dŵr a difrodi offer pysgota e.e. rhwydi gyda'u crafangau. Maen nhw’n byw mewn afonydd, camlesi ac aberoedd. Yn wreiddiol o Dde-ddwyrain Asia, cofnodwyd y cranc manegog cyntaf yn y DU ym 1935. Gwnaed y cofnod cyntaf o grancod manegog Tsieina yng Ngogledd Cymru yn Afon Dyfrdwy yn 2006. Maen nhw’n bwyta wyau pysgod ac mae benywod yn gallu magu 250,000 - 1 miliwn o wyau ar y tro.

‌​‌‌‌​‌‌‍‌​‌‌‌​‌​‍‌​Morwiail asennog – Mae morwiail asennog, neu wakame, yn wymon mawr brown sy'n cyrraedd 1-3 m o hyd. Mae'n baeddu cychod a strwythurau porthladdoedd ac yn ffurfio matiau sy’n drifftio ar wahân sy'n gallu tagu marinas ac ardaloedd hamdden. Mae'n lledaenu'n gyflym trwy gynhyrchu miliynau o sborau sy'n gallu cysylltu'n gyflym ag arwynebau gwrthrychau yn y dŵr. Amcangyfrifir ei fod yn ehangu ar hyd yr arfordir ar gyfradd o gannoedd o gilometrau'r flwyddyn.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru