Ein hymateb i Storm Ciara a Storm Dennis

Mae llifogydd wedi effeithio ar bobl ac eiddo ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf ac rydyn ni’n cydymdeimlo â'r cymunedau y mae’r stormydd wedi effeithio arnynt.

Mae Jeremy Parr, y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ysgrifennu blog am yr hyn a ddigwyddodd yn sgil Storm Ciara a Storm Dennis.

Yn ystod mis Chwefror, croesodd tair storm ac iddynt enwau – sef Ciara, Dennis a Jorge – dros y DU. Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud mai mis Chwefror 2020 oedd y mis Chwefror gwlypaf erioed yng Nghymru yn ôl y cofnodion.

Mae’r data sydd gennym ar hyn o bryd o ran glawiad Storm Ciara yn dangos bod ffigurau o 50-100mm yn gyffredin ledled y wlad dros 18 awr yn ystod dydd Sadwrn/dydd Sul, gyda 103mm wedi'i gofnodi yn Llanrwst a 119mm ar y safle yn nalgylch Glaslyn. Yn ystod Storm Dennis, bu glawiad eithriadol yn enwedig dros Fannau Brycheiniog a Chymoedd y De. Cafodd dalgylchoedd afon Taf a Rhondda fwy na 160mm mewn rhai mannau, sy'n fwy na gwerth mis o lawiad mewn un diwrnod.

Mae adroddiadau cryno’r Swyddfa Dywydd ar gyfer pob Storm ar gael i'w darllen yma:

Mae llifogydd wedi effeithio ar fy eiddo 

  • Peidiwch â gwneud unrhyw beth a allai beryglu eich iechyd a'ch diogelwch
  • Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant a dilynwch eu cyngor
  • Os ydych chi’n rhentu eich eiddo, cysylltwch â'ch landlord a'ch cwmni yswiriant cynnwys cyn gynted â phosibl
  • Cysylltwch â'ch awdurdod lleol os nad oes gennych chi yswiriant a dilynwch eu cyngor
  • Dilynwch gyngor eich awdurdod lleol ynghylch glanhau'r gwastraff
  • Gall llifogydd effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol, cofiwch fod cyngor ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau

Mae cyngor ymarferol manylach ar gael ar ein tudalen beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Cymorth ariannol

Os effeithiwyd ar eich cartref neu fusnes, mae'n bosibl y gallwch chi gael cymorth ariannol i'ch helpu i gael eich cefn atoch.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y gallwch chi hawlio at gyfer gymorth ariannol os cafodd eich cartref ei effeithio gan lifogydd yn ystod mis Chwefror 2020.

Gwybodaeth leol ychwanegol

Gall eich Awdurdod Lleol eich cynghori chi ar y canlynol:

  • Grantiau Adferiad Llifogydd Cymunedol
  • Llety brys/amgen
  • Esemptiadau Treth Gyngor
  • Casgliadau gwastraff
  • Beth i'w wneud â bagiau tywod ar ôl llifogydd (mae bag tywod halogedig yn un sydd wedi'i gyffwrdd gan ddŵr llifogydd, carthion, olew neu danwydd). Mae angen trin hyn fel gwastraff halogedig.

Chwiliwch am fanylion cyswllt eich awdurdod lleol.

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau

Os yw llifogydd wedi effeithio ar eich eiddo, efallai y byddwch chi’n awyddus i gwblhau gwaith adfer yn gyflym. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o fasnachwyr twyllodrus. Os oes angen cyngor penodol arnoch chi, bydd adran safonau masnach eich awdurdod lleol a'r heddlu lleol yn gallu’ch helpu chi.

Gallwch chi gysylltu â Cyngor ar Bopeth os oes angen cyngor penodol arnoch chi. Rhif eu Llinell Gymorth ar gyfer Defnyddwyr yw 0808 223 1133 a rhif eu gwasanaeth Cymraeg yw 0808 223 1144.

Dyma rai darnau cyffredinol o gyngor:

  • Siaradwch â'ch cwmni yswiriant yn gyntaf.
  • Cyngor Heddlu De Cymru yw y dylech wirio manylion adnabod bob amser gan y bydd galwyr cyfreithlon yn hapus i aros y tu allan i'ch eiddo tra byddwch chi’n galw’r sefydliad i wirio pwy ydyn nhw.
  • Dewch o hyd i weithiwr proffesiynol cyfrifol ar gyfer y gwaith, er enghraifft defnyddiwch Trustmark a gymeradwyir gan y llywodraeth o ran ansawdd
  • Mynnwch gael sawl dyfynbris ar gyfer unrhyw waith
  • Gwiriwch gymeradwyaeth neu ardystiad cyrff masnachu
  • Peidiwch â theimlo pwysau i ymrwymo ar y diwrnod

Os ydych chi’n credu’ch bod wedi cael eich twyllo, gallwch roi gwybod i Action Fraud. Rhowch wybod iddyn nhw ar-lein ar Action Fraud neu ffoniwch 0300 123 2040.

Ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd

Gall llifogydd fod â sawl ffynhonnell – afonydd, y llanw, rhwydweithiau carthffosiaeth neu pan na all y ddaear ddal mwy o ddŵr. Felly, bydd angen i ni weithio'n agos gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys i ymchwilio'n llawn i'r digwyddiadau a bydd hyn yn cymryd amser.

I helpu ein hymchwiliadau ac er mwyn casglu gwybodaeth, anfonwch unrhyw luniau dyddiedig a dynnwyd yn ystod y digwyddiad gyda lleoliadau penodol, gan ddangos ble y cyrhaeddodd y dŵr, ble y gorlifodd yr afon dros y lan, neu fanylion ynghylch a aeth lefel y dŵr yn uwch na’r amddiffynfeydd at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.

Nodwch na fyddwn ni efallai’n gallu ymateb i bob un yn unigol. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu ac yn coladu'r holl wybodaeth a ddarperir.

Gweithio mewn neu o amgylch afon: mesurau dros dro ar gyfer llifogydd yng Nghymru

Mewn ymateb i'r tywydd a'r llifogydd hyn na welwyd eu tebyg o’r blaen, rydyn ni wedi darparu cymorth ar gyfer gwaith atgyweirio brys mewn neu gerllaw prif afonydd.

Cofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd - byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd

Gallwch gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn credu eich bod wedi cofrestru â’r gwasanaeth ond heb dderbyn Rhybudd Llifogydd neu Neges Llifogydd - byddwch yn barod, a fyddai’n bosibl ichi gysylltu â ni er mwyn i ni allu cadarnhau eich bod wedi cofrestru â’ch manylion cyswllt cyfredol.

Rhagor o wybodaeth a chymorth

Gallwch ddod o hyd i fanylion sefydliadau sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth ar ein tudalennau beth i’w wneud cyn, yn ystod ac yn dilyn llifogydd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol neu os hoffech roi gwybod am ddigwyddiad cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 065 3000.

Mae’n bosibl cael rhagor o wybodaeth hefyd drwy ffonio Gwasanaeth 24/7 Floodline - 0345 988 1188.