Mae parth cadwraeth morol eiconig Sgomer Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni.

Parth cadwraeth morol Sgomer yw'r unig un o'i fath yng Nghymru. Fe’i dynodwyd yn Warchodfa Natur Forol yn 1990, ac mae'n parhau i fod yn gyfle euraidd i astudio a diogelu'r amgylchedd morol.

Mae ei ddyfroedd yn ymestyn o amgylch ynys Sgomer i Benrhyn Marloes gerllaw ac mae’n enwog am ei olygfeydd tanddwr a'i ystod anhygoel o fywyd morol.

Caiff parth cadwraeth morol Sgomer ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a diolch i’w leoliad, mae dyfroedd y parth yn 13.2 cilomedr sgwâr o gynefinoedd unigryw ac amrywiol.  Mae wedi'i leoli lle mae rhywogaethau Gogleddol a Deheuol yn gorgyffwrdd. Mae yma amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt o bob lliw a llun, yn wahanol i unrhyw le arall ym Mhrydain - gan ei wneud yn lle gwych i astudio a monitro newidiadau yn yr amgylchedd morol.

Meddai Phil Newman, Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol CNC:

“Yn y 30 mlynedd ers iddo gael ei ddynodi yn y lle cyntaf, mae’r safle cadwraeth morol hwn wedi gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid o’r sectorau academaidd, masnachol a hamdden i gyflawni'r canlyniad gorau i fywyd gwyllt y môr. I lawer ohonynt, mae’n fater o barhau â’r gwaith a ddechreuwyd ganddynt ddegawdau ynghynt i ennill cydnabyddiaeth i'r ardal.  Mae eraill wedi ymuno yn fwy diweddar ac, yn achos ein gwirfoddolwyr niferus, mae eu cyfraniad hyd yn oed yn fwy personol gan eu bod wedi ein helpu i gyflawni rhaglen fonitro a rheoli uchelgeisiol. 
“Mae arnom ddyled fawr i bob un ohonynt a gobeithiwn allu anrhydeddu eu buddsoddiad yn y safle trwy barhau â'r gwaith am flynyddoedd lawer i ddod.  Gyda newid yn yr hinsawdd a heriau eraill yn wynebu'r amgylchedd morol, mae'n bwysicach nag erioed bod Sgomer yn parhau i ffynnu fel man dysgu a chadwraeth.”

Dyma rai o uchafbwyntiau'r 30 mlynedd diwethaf:

  • Mae astudiaethau rhywogaethau yn amrywio o dros 130 o rywogaethau o sbyngau i forloi llwyd, ac o wlithod môr bach a lliwgar i wyntyllau môr gosgeiddig sy'n tyfu'n araf.
  • Ymwelir â dros 130 o wyntyllau môr a thynnir lluniau ohonynt bob blwyddyn i astudio newidiadau ynddynt. Mae staff wedi cwblhau 2305 o ymweliadau unigol â gwyntyllau môr.
  • Mae saith gwaith cymaint o gregyn bylchog ag oedd yma 30 mlynedd yn ôl, ac maent wedi'u hamddiffyn rhag pob math o bysgota yn y Parth Cadwraeth Morol.
  • Mae gwellt y gamlas, cynefin prin a sensitif sy'n cuddio cyfoeth o fywyd gwyllt, wedi cynyddu o ran arwynebedd a dwysedd.  Mae'n cael ei warchod yn y PCM gan fwiau marcio a thrwy ddarparu angorfeydd ar gyfer cychod sy'n ymweld - mae'n hawdd niweidio gwellt y gamlas os yw angorau'n cael eu llusgo trwyddo.
  • Mae 79 rhywogaeth o noethdagellogion (gwlithod môr) yn y PCM sy'n cynrychioli 70% o rywogaethau'r DU.  Mae gwlithod môr yn ysglyfaethwyr arbenigol sy’n ddewidol iawn o ran bwyd, ac felly maent yn ddangosydd da o iechyd cyffredinol yr ecosystem. 
  • Mae gwyntoedd o dros 110 mya a thonnau dros 13 metr o uchder wedi'u mesur.
  • Mae staff wedi dilyn ffawd mwy na 7430 o forloi bach;
  • Mae deifwyr gwirfoddol, gan weithio gyda CNC, wedi arolygu mwy na 180,040 metr sgwâr o wely'r môr yn edrych ar gregyn bylchog, pysgod, draenogod môr a gwellt y gamlas;
  • Mae mwy na 390,000 o bobl wedi ymweld ag arddangosfa PCM yn Martin’s Haven.
  • Mae mwy na 55,400 o ddeifwyr wedi archwilio'r PCM - naill ai er pleser neu i gyfrannu at yr arolwg a'r gwaith monitro;

Mae tîm PCM Sgomer yn cynhyrchu adroddiadau tystiolaeth monitro morol CNC ar ei holl brosiectau. Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth i gefnogi nid yn unig gwaith rheoli PCM Sgomer ond hefyd i reoli Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol a'r amgylchedd morol yn adroddiadau ‘Cyflwr yr Amgylchedd’ Cymru.