Arolwg Cenedlaethol Dyfrgwn Cymru yn dangos dirywiad rhannol ym mhoblogaethau dyfrgwn yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Prifysgol Caerdydd (PC) a llu o wirfoddolwyr wedi ailadrodd Arolwg Cenedlaethol Dyfrgwn Cymru am y tro cyntaf ers 2010.

Gan ddefnyddio’r un dulliau ag arolygon blaenorol i sicrhau bod y canlyniadau’n gymharol, ymwelwyd â chyfanswm o 1073 o safleoedd, gydag arwyddion dyfrgwn wedi’u canfod mewn 756 o safleoedd, gan ddangos dirywiad sylweddol yn eu poblogaethau am y tro cyntaf ers y 1970au, o oddeutu 90% o ddeiliadaeth yn 2010 i 70% yn 2015 i 2018.

Mae'r rhesymau dros y dirywiad yn aneglur ac mae gwaith pellach yn cael ei gynllunio gan CNC a PC i ymchwilio i resymau tebygol dros hyn.

Dywedodd Dr Eleanor Kean, ag arweiniodd yr ymchwil ar gyfer Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd:

“Gwnaeth Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd (CUOP) arolwg o safleoedd arolwg cenedlaethol ar draws chwe dalgylch afon a nodi dirywiad yn arwyddion dyfrgwn. Cydweithiodd Cyfoeth Naturiol Cymru â ni i drefnu arolygon o'r safleoedd sy'n weddill ledled Cymru i gwblhau chweched Arolwg Dyfrgwn yng Nghymru, gyda chymorth syrfewyr gwirfoddol.
“Doedd y gostyngiadau ddim yn hollbresennol, a’r dalgylchoedd yr effeithiwyd arnynt waethaf oedd dalgylchoedd Conwy, Loughor a Teifi. Roedd gostyngiadau llai yn amlwg yn y rhan fwyaf o ddalgylchoedd eraill, tra mai dim ond ychydig ohonynt, fel yr Hafren, oedd yn ymddangos fel pe bai ganddynt boblogaethau sefydlog.”

Dywedodd Liz Halliwell, Arweinydd Tîm Ecosystemau a Rhywogaethau Daearol, CNC:

“Mae monitro statws poblogaeth dyfrgwn yn bwysig o ran cadwraeth y mamal poblogaidd hwn. Yn ogystal â hyn, fel prif ysglyfaethwr ein dyfroedd croyw, gall y dyfrgi fod yn ddangosydd biolegol pwysig o iechyd ein hafonydd a'n gwlyptiroedd.
“Yng Nghymru fel mewn llawer o’r DU, mae’r dyfrgi yn anifail nosol i raddau helaeth ac anaml y gwelir ef yn y gwyllt, ond mae’n bosibl canfod ei bresenoldeb trwy chwilio am ei faw nodedig – chwistrelliadau- ac olion traed.
“Mae poblogaethau dyfrgwn ledled Prydain wedi bod yn gwella’n raddol ar ôl dirywiad sylweddol yn y 1970au. Y neges glir o'r adroddiad hwn yw na allwn fod yn hunanfodlon ynghylch adferiad parhaus y dyfrgi yn y DU. Er mwyn deall y rhesymau dros y dirywiad, rydym yn gweithio gydag arbenigwyr cynefinoedd dyfrgwn a dŵr croyw i adolygu'r sefyllfa. Mae gennym hefyd Raglen Adfer Afon helaeth yn cael ei datblygu a fydd yn dod â buddion i lawer o rywogaethau torlannol gan gynnwys dyfrgwn.”

Bydd y Gymdeithas Mamaliaid, Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England, gyda chefnogaeth gan nifer o gwmnïau dŵr, yn cychwyn chweched arolwg dyfrgwn cenedlaethol Lloegr yn 2022.