Arolwg o sbyngau er mwyn deall iechyd cynefinoedd morol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynnal arolwg manwl er mwyn dysgu rhagor am iechyd un o gynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf unigryw Cymru.

Mae Parth Cadwraeth Morol Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro, yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt morol ac mae’n ardal lle mae CNC yn cynnal rhaglenni ymchwil a monitro ar raddfa fawr.

Y nod yw cynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd morol a geir yno.

Cynhelir nifer ohonynt bob blwyddyn ac maen nhw’n cynnwys tynnu ffotograffau o’r un ardaloedd neu o anifeiliaid unigol er mwyn gallu nodi newidiadau.

Mae’r arolwg eleni, serch hynny, yn arolwg manwl lle mae gofyn i staff gymryd samplau o sbyngau er mwyn eu nodi a’u catalogio.

Dim ond bob pedair blynedd y mae’r math yma o arolwg yn digwydd, a gall iechyd ac amrywiaeth y sbyngau helpu i greu darlun o ba mor dda mae’r cynefin cyfan yn ei wneud.

Mae dros 130 o wahanol fathau o sbyngau’r môr ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer, ac yn aml mae rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod yn ystod arolygon fel hyn. Mae o leiaf deuddeg rhywogaeth na ddisgrifiwyd o’r blaen wedi cael eu canfod yno ers 2003.

Dywedodd Jennifer Jones, Swyddog Asesu Amgylcheddau Morol, CNC:

“Mae Sgomer yn ardal unigryw iawn, nid yn unig yng Nghymru ond yn y byd. Mae’n byrlymu â bioamrywiaeth ac mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gynnal ac i ddiogelu’r ardal mor bwysig.
“Mae sbyngau’r môr yn gallu dweud llawer wrthym am beth arall sy’n digwydd yn y parth cadwraeth, ond yn gyffredinol os yw’r sbyngau’n ffynnu yna felly hefyd y mae’r planhigion a’r anifeiliaid eraill sy’n byw yno.
“Mae’r arolygon hyn yn bwysig am eu bod yn rhoi syniad hir dymor i ni o iechyd cyffredinol y parth, sy’n ei gwneud hi’n haws gweld os oes rhywbeth yn mynd o’i le yn y cynefin. Mae gwneud hyn yn gwneud y gwaith o reoli a chynnal yr adnodd anhygoel hwn cymaint haws.”

Bydd y samplau o sbwng nawr yn cael eu harchwilio a’u hadnabod, ac enwau’r rhywogaethau’n cael eu hychwanegu i gronfa ddata o rywogaethau o sbyngau y gwyddom eu bod yn byw o fewn Parth Cadwraeth Sgomer.