Sefyllfa o sychder yn dechrau yn Ne Orllewin Cymru wrth i’r tywydd sych barhau

Yn dilyn y cyfnod estynedig o dywydd sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau fod y trothwy sychder wedi ei gyrraedd ac y bydd rhannau o Dde Orllewin Cymru yn cael eu trosglwyddo i gategori sychder o ddydd Gwener, 19 Awst ymlaen.

Cytunwyd ar y penderfyniad i newid o’r categori tywydd sych estynedig i’r categori sychder ar gyfer yr ardal yn dilyn cyfarfod Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, ac ar ôl ystyried y pwysau cynyddol ar yr amgylchedd yn yr ardal hon, oedd yn waeth oherwydd y tymereddau uchel a'r diffyg glaw sylweddol.

Mae gweddill Cymru’n dal i fod yn y categori tywydd sych estynedig ond mae pryderon yn parhau. Er bo cyflenwadau hanfodol yn dal i fod yn ddiogel, dylai’r cyhoedd a busnesau mewn ardaloedd y mae sychder yn effeithio arnynt fod yn dra ymwybodol o'r pwysau sydd ar adnoddau dŵr a dylent ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae CNC yn parhau i fonitro'r sefyllfa’n agos ar draws Cymru, gan weithio gyda phartneriaid a bydd yn gweithredu yn ôl yr angen.

Meddai Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy CNC:

"Gall cyfnod o dywydd sych estynedig arwain at sychder pan fo glawiad yn parhau i fod yn isel. Gall hyn effeithio ar rai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn ogystal ag ar systemau rydyn ni'n aml yn eu cymryd yn ganiataol, fel ein cyflenwadau dŵr.
"Rydym wedi penderfynu datgan sefyllfa o sychder yn Ne Orllewin Cymru ar ôl iddi fod yn amlwg bod y diffyg glaw a’r gwres diweddar wedi rhoi straen enfawr ar lefelau ein hafonydd, ein cronfeydd dŵr a’n dŵr daear."

Yr ardaloedd y bydd hyn yn effeithio arnynt yw:

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Cleddau Ddu a Chleddau Wen)
  • Caerfyrddin (Tywi a Taf)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a Llwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (Nedd, Afan, Ogwr)

Dim ond 65.5% o’r glawiad cyfartalog a gafwyd yn ardal De Orllewin Cymru ym mis Gorffennaf ac mae holl lefelau afonydd yr ardal yn is na'r disgwyl am yr adeg hon o'r flwyddyn, gydag afonydd Ewenni, Teifi ac afon Taf yn eithriadol o isel.

Mae lefelau dŵr daear isel, ynghyd â'r tymereddau eithriadol, hefyd wedi rhoi straen ar ecosystemau'r ardal yn ogystal ag ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin.

Mae gweddill y wlad yn parhau i fod mewn cyfnod estynedig o dywydd sych, er bod rhywfaint o law wedi disgyn yn ddiweddar.

Ar draws gweddill Cymru, mae’r rhan fwyaf o afonydd drwy Gymru yn is na’r disgwyl ar gyfer yr amser hwn o’r flwyddyn, a llawer ohonynt yn eithriadol isel gan gynnwys Afonydd Alun, Conwy, Clwyd, Taf, Teifi, Ewenni, Gwy, Wysg ac Ebwy. 

Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf dim ond 61% o’r glawiad disgwyliedig a gafwyd yng Nghymru gan arwain at y cyfnod pum mis sychaf mewn 40 mlynedd.

Mae CNC yn cynghori preswylwyr Sir Benfro i ddilyn cyngor arbed dŵr a roddwyd gan Dŵr Cymru. Mae Dŵr Cymru wedi datgan gwaharddiad dros dro, sy’n fwy adnabyddus fel ‘gwaharddiad pibellau dŵr’, a bydd hwn hefyd yn dod i rym heddiw (dydd Gwener, 19 Awst).

Mae CNC a Llywodraeth Cymru hefyd yn mynychu’r grŵp sychder cenedlaethol ar gyfer Lloegr er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon trawsffiniol.

Ychwanegodd Natalie:

"Er efallai bod rhai rhannau o Gymru yn cael glaw, gall adfer y sefyllfa ar ôl sychder gymryd amser maith, gan wneud dŵr yn adnodd gwerthfawr.
“Rydym yn annog y cyhoedd i arbed dŵr pan fo’n bosibl; gallwch ddod o hyd i’r cyngor diweddaraf ar ddŵr drwy fynd i wefan eich cwmni dŵr neu Waterwise (www.waterwise.org.uk).
“Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r tywydd sych cyfredol drwy gysylltu â’n llinell gymorth 24-awr a ffonio 0300 065 3000.”