Gwaith Twyni Byw ar fin rhoi hwb i dwyni tywod Tywyn Aberffraw

Mae prosiect cadwraeth mawr sydd â'r nod o roi hwb i dwyni tywod ledled Cymru yn troi ei sylw at Dywyn Aberffraw wrth i'r gwaith o adfywio'r twyni gychwyn yn y safle rhyngwladol bwysig ar Ynys Môn.

Bydd tîm prosiect Twyni Byw, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dechrau ar y gwaith o dynnu tyweirch mewn chwe ardal o fewn y llaciau twyni yn Nhywyn Aberffraw. Bydd y gwaith yma yn creu cynefin tywod noeth sy’n hanfodol i oroesiad rhai o blanhigion prinnaf Cymru, yn enwedig mwsoglau a llysiau’r afu.

Bydd contractwyr y prosiect, sef Tir a Choed, hefyd yn cael gwared ar blanhigion estron goresgynnol, fel rhosyn Japan, llin Seland Newydd a chrib-y-ceiliog sydd, os na chân nhw eu rhwystro, yn gallu ymledu gan fygu ardaloedd mawr o dwyni.

Mae prysgwydd hefyd yn cael ei dorri'n ôl er mwyn ei atal rhag goresgyn glaswelltir twyni llawn blodau, ac i ganiatáu mynediad gwell trwy'r twyni i bobl a da byw.

Dros yr 80 mlynedd diwethaf, mae tywod agored wedi diflannu i raddau helaeth o dwyni tywod Cymru, ac mae wedi’i ddisodli gan laswellt trwchus a phrysgwydd. Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion estron, lefelau is o bori, newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Wrth i'r twyni ddod yn fwy sefydlog a thyfu’n wyllt, mae’r bywyd gwyllt prin wedi dirywio.

Mae’r prosiect Twyni Byw wedi bod yn gweithio'n agos gydag Ystad Bodorgan, sy'n berchen ar y twyni yn Nhywyn Aberffraw ac yn eu rheoli.

Ddywedodd Leigh Denyer, Swyddog Prosiect a Monitro Gogledd Twyni Byw:

“Mae ein gwaith yn Nhywyn Aberffraw yn hanfodol i’n nod o adfywio twyni tywod ledled Cymru. Mae twyni Aberffraw yn cael eu dosbarthu fel Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer bioamrywiaeth.
“Bydd y gwaith o dynnu tyweirch yn y llaciau twyni yn creu tywod noeth, a fydd yn rhoi hwb i rywogaethau planhigion a phryfetach prin sy'n dibynnu ar y cynefin hanfodol hwn.
“Mae angen cael gwared ar phlanhigion estron goresgynnol a’r rhai sydd wedi dianc o erddi er mwyn eu hatal rhag cydio yn y twyni a’u dominyddu, gyda’r perygl o golli ein twyni deinamig wrth iddyn nhw or-sefydlogi.
“Wrth iddyn nhw wneud gwaith ar ein rhan, bydd pob contractwr yn dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol cyfredol COVID-19.”

Ddywedodd Helen Wainwright, Meyrick Estate Management Ltd:

“Mae Tywyn Aberffraw yn cael ei fwynhau gan lawer o aelodau’r gymuned leol ac ymwelwyr ag Ynys Môn. Felly, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi'r gwaith pwysig hwn a fydd yn adfywio rhan ecolegol bwysig o'n Hystad. Rydym yn edrych ymlaen at weld ystod amrywiol o blanhigion a phryfed yn ailsefydlu eu hunain ac yn ffynnu yma.”

At ei gilydd, mae Twyni Byw yn adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru. Mae'r prosiect yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022.

Bydd rhagor o waith gaeaf gan y prosiect Twyni Byw hefyd yn digwydd yn Nhywyn Niwbwrch, Morfa Harlech a Morfa Dyffryn, yn ogystal â phum safle yn ne Cymru.