Atal y llygredd yng Nghastellnewydd Emlyn

Wrth i’r ymchwiliadau barhau i ddigwyddiad a fu’n effeithio ar Afon Teifi ger Castellnewydd Emlyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod y llygredd wedi’i atal erbyn hyn.

Ddoe, canfu swyddogion CNC fod y llygredd yn tarddu o gyfleuster gerllaw. Cysylltodd swyddogion â’r cwmni, a roddodd fesurau brys ar waith gyda’r nos i atal llygredd pellach rhag gollwng i Afon Teifi. 

Mae swyddogion wedi dychwelyd i’r safle heddiw i sicrhau bod y camau gweithredu tymor byr yn effeithiol, ac i drafod mesurau tymor hir i atal digwyddiad o’r fath rhag digwydd eto. 

Mae’r gwaith o fonitro’r afon yn parhau wrth i swyddogion asesu effaith y llygredd ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt.

Dywedodd Paul Gibson, arweinydd y tîm rheoleiddio Diwydiannau a Gwastraff, Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Rydym yn hyderus ein bod wedi canfod y tarddiad ac wedi atal y llygredd rhag gollwng, a fu’n effeithio ar Afon Teifi ers sawl diwrnod. 
“Er hynny, gallai fod elifion o fewn y system ddraenio o hyd a allai gymryd amser i weithio’u ffordd drwy’r system. Bydd ein timau’n parhau i gadw llygad ar ansawdd dŵr ac unrhyw effeithiau ar fywyd gwyllt. 
“Mae’r cwmni o dan sylw yn cydweithredu â’n hymholiadau wrth i’r ymchwiliad i ganfod pam y digwyddodd hyn barhau. Pan fydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, byddwn yn penderfynu ar y camau pellach sydd angen eu cymryd ac yn rhannu rhagor o wybodaeth pan fo’n briodol inni wneud hynny.”

31 Gorffenaf 2019

Ffynhonnell llygredd Afon Teifi wedi'i darganfod

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi darganfod ffynhonnell y llygredd sydd wedi bod yn effeithio ar Afon Teifi ger Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.

Ers i'r llygredd gael ei riportio gyntaf ddydd Sul, mae swyddogion wedi bod yn gweithio nos a dydd i ynysu'r ffynhonnell a cheisio atal rhagor o lygredd rhag effeithio ar yr afon a'i bywyd gwyllt. 

Mae'r ymchwiliad i amgylchiadau'r llygredd yn parhau. Mae CNC mewn cysylltiad â'r cwmni y mae'n credu sy'n gyfrifol ac yn disgwyl iddynt weithredu i atal y llygredd. 

Mae CNC wedi cadarnhau nad slyri na charthffosiaeth sydd wedi achosi'r llygredd. 

Dywedodd Paul Gibson, arweinydd tîm Rheoleiddio Diwydiannau a Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Mae Afon Teifi yn ddalgylch afon hynod o bwysig a sensitif, a hefyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig, felly mae unrhyw ddigwyddiad llygredd yn siom. 
“Nid oes unrhyw bysgod marw wedi’u cadarnhau hyd yma, ond mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydym yn monitro’r afon yn agos am unrhyw arwydd o bysgod neu fywyd gwyllt mewn trallod. 
“Rydyn ni hefyd yn cymryd samplau o’r llygredd i’n helpu ni i ddeall yn well sut mae’r llygredd wedi digwydd, ac fel tystiolaeth pe bai gennym ni achos i gymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol. 
“Os bydd unrhyw un yn gweld unrhyw arwyddion pellach o lygredd yn yr ardal dylent roi gwybod amdano ar unwaith i’n llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000.”