CNC yn addo ariannu a gwneud gwaith atgyweirio i Rodney’s Pillar

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi addo ariannu a gwneud gwaith atgyweirio i gofeb boblogaidd yng Nghanolbarth Cymru mewn partneriaeth â'r gymuned leol.

Mae Rodney’s Pillar yn heneb garreg sy'n sefyll ar Breidden Hill ger y Trallwng. Fe'i hadeiladwyd yn 1781–82 i goffáu buddugoliaeth Admiral Rodney dros y Ffrancwyr. Fe'i hadeiladwyd gan foneddigion Sir Drefaldwyn a gyflenwyd coed derw o'r ardal a’u cludo i lawr Afon Hafren i Fryste lle adeiladwyd fflyd Rodney.

Mae CNC eisoes wedi ffensio'r piler i sicrhau diogelwch y cyhoedd gan ei fod mewn cyflwr gwael ac mae angen gwaith atgyweirio sylweddol arno. Mae'r ffens wedi'i osod i amddiffyn ymwelwyr rhag unrhyw falurion a allai ddisgyn o'r heneb.

Gan ddefnyddio arolwg strwythurol a gomisiynwyd gan CNC a grŵp cymunedol Save Rodney's Pillar fel rhan o'r paratoadau, mae cynlluniau eisoes ar y gweill i adfer yr heneb.

Dywedodd Rhys Jenkins, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC ar gyfer Gogledd Canolbarth Cymru: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch ymwelwyr â Rodney’s Pillar a bydd y ffens yn parhau yn ei lle nes bod y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau.
"Fel person lleol i’r ardal, rwy'n gwybod bod Rodney’s Pillar yn adnabyddus ac yn hoffus yn yr ardal. Bydd y gwaith hwn – yn ogystal â rhaglen gynnal a chadw barhaus - yn sicrhau ei sefydlogrwydd nawr ac yn y dyfodol."
Dywedodd Bill Lee, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Save Rodney’s Pillar: "Mae'r Ymddiriedolwyr yn amlwg yn hapus iawn bod CNC wedi gwneud y penderfyniad i ariannu ac atgyweirio'r golofn ond hefyd yr un mor bwysig yw eu bod wedi ymrwymo i fonitro cyflwr y golofn wrth symud ymlaen, gan sicrhau dyfodol y golofn am genedlaethau i ddod, sef y prif reswm y sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth a'r hyn yr ydym wedi bod yn gweithio tuag ato.
"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r Ymddiriedolaeth hyd yma drwy godi arian neu ymwybyddiaeth, mae wedi cael ei werthfawrogi'n fawr."

Mae CNC yn rhagweld y bydd y gwaith atgyweirio yn digwydd yn ystod haf 2022, pan fydd y tywydd yn y man agored yn caniatáu hynny. Bydd y gwaith yn cymryd tua phedwar mis i'w gwblhau.