Mae CNC wedi rhyddhau'r asesiadau diweddaraf o stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru

Salmon release

Heddiw (25 Gorffennaf 2022), mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi asesiadau 2021 o stociau eogiaid ar gyfer 23 o brif afonydd eogiaid yng Nghymru (gan gynnwys tair afon drawsffiniol) yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael.

Mae eogiaid a brithyllod y môr (siwin) yn rhywogaethau eiconig yng Nghymru. Mae arnynt angen cynefinoedd dŵr croyw o ansawdd uchel i ffynnu ac maent yn ddangosydd allweddol o ansawdd amgylcheddol dalgylchoedd afonydd, a hefyd yn darparu cyfleoedd pwysig ar gyfer hamdden iach a gwerthfawr.

Yn 2021 cofnododd Cymru'r nifer isaf o ddalfeydd ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ers dechrau cadw cofnodion cyson yn y 1970au. 

Meddai Ben Wilson, Prif Swyddog Pysgodfeydd ar gyfer CNC:

"Dyma'r lefel waethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru o ran perfformiad stociau eogiaid a brithyllod y môr ac mae'n destun pryder mawr sy'n dangos bod llawer o stociau bellach mewn trafferth difrifol ac mewn perygl o fethu â chynnal poblogaethau cynaliadwy yn y dyfodol.
"Mae hyn yn arwydd clir bod yn rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r dirywiad yn nifer y pysgod.
"Mae'r dirywiad hwn i’w weld yn y rhan fwyaf o wledydd eraill ar draws dosbarthiad eogiaid yng Ngogledd yr Iwerydd a'u cynefin Ewropeaidd, lle mae poblogaethau wedi gostwng dros y degawdau diwethaf.
"Mae hyn wedi bod yn fwyaf amlwg yn achos eogiaid, ond yn ddiweddar mae gostyngiad sydyn wedi digwydd yn stociau brithyllod môr Cymru hefyd, yn enwedig yn y de a'r de-orllewin."

Mae canlyniadau llawn yr asesiad o stociau wedi'u cyhoeddi yn yr adroddiad asesu stociau eogiaid blynyddol ar gyfer Cymru a Lloegr sydd wedi'i gyd-ysgrifennu â Cefas ac Asiantaeth yr Amgylchedd ac sydd i’w weld yma :-

Assessment of Salmon Stocks and Fisheries in England and Wales in 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)

Assessment of Salmon Stocks and Fisheries in England and Wales: Background Report 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae gan Gymru 23 o ddalgylchoedd prif afonydd eogiaid ac rydym yn asesu ac yn adrodd ar eu stociau bob blwyddyn. Mae canlyniadau'r asesiad diweddaraf wedi dangos bod 91%, sef 21 o afonydd eogiaid yng Nghymru bellach wedi'u categoreiddio fel rhai sydd ‘Mewn Perygl’, a 9% sydd ‘Mewn Perygl yn ôl Pob Tebyg. Nid oedd unrhyw afonydd wedi'u categoreiddio fel rhai sydd ‘Ddim Mewn Perygl’ neu ‘Ddim Mewn Perygl yn ôl Pob Tebyg’.

Yn ogystal, mae gan Gymru 33 o brif afonydd brithyllod y môr – dim afonydd sy'n cael eu hystyried yn rhai sydd 'Ddim mewn Perygl', pedair afon (12%) sydd ‘Ddim Mewn Perygl yn ôl Pob Tebyg’, wyth afon (24%) sydd ‘Mewn Perygl yn ôl Pob Tebyg’, a 21 afon (64%) fel sydd ‘Mewn Perygl’.

Ychwanegodd Ben:

"Yn 2020, gwnaethom gyflwyno is-ddeddfau Dal a Rhyddhau i helpu i ddiogelu eogiaid a brithyllod y môr ledled Cymru, ac rydym wedi gweld pysgotwyr a rhwydwyr yn ymateb yn gadarnhaol i'r rhain. Yn anffodus, nid oes un ateb delfrydol i ddiogelu ac ailadeiladu stociau bregus a rhaid inni barhau i weithio ar ystod eang o fentrau i wneud ein hafonydd yn iachach ac yn fwy diogel ar gyfer eogiaid a brithyllod môr.
"Mae angen i ni wella ansawdd dŵr afonydd ac atal llygredd amaethyddol acíwt a gwasgaredig, yn ogystal â mynd i'r afael â digwyddiadau sy’n gysylltiedig â'r Diwydiant Dŵr.  Rhaid inni hefyd gael gwared â rhwystrau sy’n atal ymfudiad a diogelu stociau rhag ysglyfaethu anghynaliadwy. 
"O ystyried y perygl a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, mae sicrhau bod gan ein hafonydd ddŵr glân ac oer i gefnogi eogiaid a brithyllod yn hanfodol.
"Mae gan lawer o bartneriaid rolau pwysig i'w chwarae pan fo stociau ar lefelau mor isel ac mae unrhyw ychwanegiadau i'r stociau silio gwyllt yn ein hafonydd yn arbennig o werthfawr pan fo stociau ar lefelau mor isel."

“Mae gan CNC raglen barhaus i adfer afonydd i wella cynefinoedd a chael gwared ar y rhwystrau, gan sicrhau bod gan bysgod lwybr diogel i fannau silio ac mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i weithredu dull polisi diwygiedig cytunedig o ran adar sy'n bwyta pysgod."

Yn 2020, cyhoeddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru 2020   

Mae'r cynllun yn nodi naw thema allweddol ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng salmonidau:

  • Tystiolaeth,
  • Rheoli ecsbloetiaeth,
  • Rheoli stociau drwy orfodi effeithiol,
  • Mynd i’r afael â chyfyngiadau ffisegol ar gynefinoedd yn yr amgylchedd dŵr croyw,
  • Diogelu ansawdd a swm dŵr,
  • Mynd i’r afael â rheoli tir, a’r risgiau cysylltiedig o ran ansawdd dŵr,
  • Mynd i’r afael ag ysglyfaethu ar salmonidau: adar pysgysol a morloi,
  • Deall pwysau morol,
  • Deall pwysau newydd posib sy’n dod i’r amlwg.

Bydd y mesurau ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd a diogelu ac adfer cynefinoedd pysgodfeydd, a ddatblygwyd gan y Cynllun Gweithredu, ynghyd â "Chynllun Gweithredu" NASCO Cymru a Lloegr ar gyfer 2019-24, yn digwydd dros gyfnodau o bum mlynedd.

Mae'r camau gweithredu wedi cynnwys lleihau'r defnydd o eogiaid gan bysgodfeydd rhwyd a gwialen. Ers 2020 mae'n rhaid rhyddhau pob eog sy'n cael ei ddal yng Nghymru. Mae pysgodfeydd gwialen wedi cyflawni cyfradd rhyddhau o ryw 86% ar gyfer brithyllod y môr ledled Cymru drwy fesurau rheoli gwirfoddol a gorfodol. 

Ychwanegodd Ben:

"Mae'r gostyngiad parhaus yn niferoedd y stociau o eogiaid a brithyllod y môr yn golygu y gallai pob pysgodyn sy'n cyrraedd ei fan silio neu sy'n cael ei ddychwelyd yn ddiogel i'r dŵr ar ôl cael ei ddal gyfrannu at wella poblogaethau pysgod ac mae hyd yn oed niferoedd cymharol fach o bysgod yn hanfodol i adfer stociau mewn cyn lleied o amser â phosib.
"Wrth symud ymlaen byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phawb sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd iechyd ein hafonydd, ein stociau pysgod a'n pysgodfeydd, er mwyn sicrhau bod eogiaid yn ffynnu unwaith eto yn ein hafonydd."