CNC yn cymeradwyo cynllun i warchod stociau pysgod bregus

Salmon release

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo cynllun gweithredu i helpu i warchod poblogaethau pysgod rhag effaith ysglyfaethu gan adar sy’n bwyta pysgod (yn yr achos hwn, y fulfran a’r hwyaden ddanheddog).

Cymeradwyodd Bwrdd CNC y cynllun gweithredu yn dilyn ystyriaeth ofalus o’r argymhellion gan y Grŵp Cynghori ar Adar sy’n Bwyta Pysgod ynghylch sut y gellir gwarchod pysgodfeydd a stociau pysgod bregus rhag pwysau ysglyfaethu gan hefyd warchod adar sy’n bwyta pysgod.

Roedd y Grŵp Cynghori yn cynnwys cynrychiolwyr o CNC, RSPB Cymru, Cymdeithas Adaryddol Cymru, Afonydd Cymru, Salmon and Trout Conservation Cymru, Angling Trust a Game and Wildlife Trust, a chawsom gyngor gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) a dau arbenigwr annibynnol ar bysgod a dynameg poblogaeth adarol a datrys gwrthdaro ymysg bywyd gwyllt.

Bu cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Natural England a NatureScot yn arsylwi.

Dywedodd Ben Wilson, prif swyddog pysgodfeydd CNC:

“Ein rôl yw diogelu a gwella adnoddau naturiol, gan gynnwys ein pysgodfeydd a’n adar gwyllt, felly mae angen i ni ddatblygu rhaglen sy’n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng adfer stociau pysgod sydd mewn perygl a gwarchod adar gwyllt.
“Mae sawl ffactor heblaw am ysglyfaethu gan adar sy’n bwyta pysgod yn gyfrifol am roi pwysau ar boblogaethau pysgod gwyllt gan gynnwys yr eogiaid a’r brithyll y môr eiconig, megis dŵr a chynefinoedd o ansawdd isel, goroesiad morol a newid yn yr hinsawdd, sy’n ei gwneud yn anodd iawn i gyfrifo effaith unrhyw un math o bwysau unigol.
“Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn nodi, ar gyfartaledd, bod adar sy’n bwyta pysgod, megis y fulfran a’r hwyaden ddanheddog yn gallu effeithio’n andwyol ar boblogaethau pysgod a dyfroedd llonydd gyda stoc o bysgod.
“O ystyried cyflwr enbyd ein stociau eog a brithyll y môr, mae angen targedu mwy o gamau gweithredu i leihau ysglyfaethu ar bysgod gan adar, yn enwedig mewn dalgylchoedd lle mae stociau ar eu mwyaf bregus.”

Gan weithredu ar argymhellion y Grŵp Cynghori, bydd cynllun gweithredu CNC yn:

  • Edrych ar ddefnyddio trwyddedau’n seiliedig ar ddalgylch er mwyn gallu cydlynu’r gwaith o reoli adar sy’n bwyta pysgod yn well i helpu gofalu am boblogaethau pysgod bregus.
  • Gosod trothwy ar gyfer mesurau rheoli sy’n sicrhau statws cadwraeth hirdymor poblogaethau adar.
  • Hwyluso a chyflawni mesurau penodol i warchod stociau pysgod sydd “mewn perygl” (ac yn “debygol o fod mewn perygl”) ar adegau pan fyddant ar eu mwyaf bregus, yn enwedig mewn mannau cul lle mae gleisiaid ar eu mwyaf bregus.

Bydd hyn yn cynnwys mesurau megis:

  • Gwella cysylltedd afonydd trwy waredu rhwystrau a gwella mudiad gleisiaid ymhellach i lawr yr afon.
  • Gwella cynefinoedd yn yr afon i warchod y pysgod.
  • Cefnogi technegau nad ydynt yn angheuol i ddychryn adar a diogelu pysgod.

Ychwanegodd Ben:

“Mae hwn yn ddull cytbwys sy’n gosod mesurau rheoli nad ydynt yn angheuol ar y blaen, ond cydnabyddir y bydd angen rhywfaint o reolaeth angheuol.
“Ein nod hirdymor yw y bydd afonydd Cymru yn cefnogi poblogaethau pysgod ac adar sy’n ffynnu. Yn y tymor byr, fodd bynnag, mae’r camau gweithredu hyn yn angenrheidiol er mwyn lleihau pwysau ysglyfaethu ar boblogaethau salmonidau gwyllt a physgodfeydd wedi’u stocio, gan hefyd ddiogelu poblogaethau cynaliadwy o fulfrain a hwyaid danheddog.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi’r cynllun hwn ar waith cyn gynted â phosibl. Rydym ni’n gobeithio penodi cydlynydd pysgodfeydd i gynorthwyo gyda’r gwaith o’r ddatblygu a’i weithredu.
“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r ffactorau eraill sy’n effeithio ar y stoc bysgod yng Nghymru.”