CNC yn cymeradwyo cynllun samplu gwaddodion Hinkley Point C

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cymeradwyo cynllun EDF Energy i samplu a phrofi gwaddodion morol o Fôr Hafren cyn unrhyw gais am drwydded i'w gwaredu yng Nghymru yn y dyfodol.

Ffynhonnell y gwaddodion yw blaendraeth Gwlad yr Haf yn Lloegr, sef rhan o safle adeiladu gorsaf bŵer Hinkley Point C.

Bydd angen i EDF Energy gasglu samplau gwaddodion yn unol â'r cynllun cymeradwy a chynnal prawf deunydd cemegol a radiolegol arnynt, cyn gwneud cais i CNC am drwydded forol i waredu'r deunydd a garthwyd.

Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru CNC:

"Ein gwaith ni yw sicrhau nad yw gweithgareddau yn Aber Afon Hafren yn niweidio'r amgylchedd morol pwysig hwn.
"Mae EDF wedi ystyried yr argymhellion yn ein cyngor cyn-ymgeisio yn ôl ym mis Mehefin 2020, ac rydym bellach yn fodlon bod y cynllun samplu’n bodloni gofynion canllawiau a gweithdrefnau samplu y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol.
"Os byddwn yn cael cais am drwydded forol a chanlyniadau'r profion gwaddodion, byddwn yn asesu'r wybodaeth yn drylwyr ac yn gofyn am gyngor arbenigol yn y broses.
"Dim ond os ydym yn hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl na'r amgylchedd y byddwn yn rhoi trwyddedau morol ar gyfer gwaredu deunydd sydd wedi’i garthu yn y môr."

Gwaredodd EDF Energy waddodion morol o'r safle adeiladu ar safle gwaredu oddi ar arfordir De Cymru ger Caerdydd yn 2018, ar ôl asesiad a nododd eu bod yn ddiogel.

Mae'r cwmni bellach yn bwriadu gollwng rhagor o waddodion ar safle gwaredu Cardiff Grounds.

Mae CNC hefyd wedi cael cais gan EDF Energy i ystyried a fydd angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) fel rhan o'r broses ymgeisio.

Bydd y penderfyniad ar yr AEA yn cael ei wneud dros y misoedd nesaf a chaiff ei gyhoeddi ar wefan CNC.

Aeth Michael yn ei flaen i ddweud:

"Rydym am sicrhau pobl fod pob cais am drwydded forol, p'un a oes angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol arnynt neu beidio, yn cael ei asesu'n drylwyr ac yn gadarn i ddiogelu pobl a'r amgylchedd."

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau EDF Energy ar gael ar wefan CNC:

https://cyfoethnaturiol.cymru/GwarediadGwaddodCardiffGrounds