Mae prosiect cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru newydd yn ceisio adfer wystrys brodorol yn aber Aberdaugleddau 

Mae prosiect cadwraeth cyffrous newydd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i hyfywedd adfer yr wystrys brodorol.

Nod y prosiect arloesol hwn yw treialu gwahanol ddulliau i adfer yr wystrys brodorol a'r cynefin cysylltiedig sy'n bwysig yn amgylcheddol.

Hwn yw'r prosiect cadwraeth wystrys brodorol cyntaf o'i fath yng Nghymru ac os yw'n llwyddiannus, gellid ei ddefnyddio fel glasbrint ar gyfer prosiectau adfer ar raddfa fwy.

Mae wystrys brodorol yn hidlo ac yn glanhau dŵr ac yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer pysgod, cramenogion a rhywogaethau eraill.

Maen nhw'n cloi carbon i ffwrdd, ac yn hidlo gronynnau a maetholion o'r dŵr, felly maen nhw'n chwarae rhan hanfodol tuag at wrthbwyso effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae wystrys yn helpu i wella gwytnwch ein hecosystemau morol felly bydd adfer y cynefinoedd hyn yn darparu buddion i bobl ac i'r amgylchedd ehangach.

Roedden nhw unwaith yn eang ledled Cymru, ond bu dirywiad sylweddol mewn cynefinoedd wystrys dros y ganrif ddiwethaf. Mae gor-ecsbloetio hanesyddol, newidiadau yn ansawdd dŵr a chlefydau yn debygol o fod wedi gyrru'r dirywiad hwn.

Gadawodd y ffactorau hyn niferoedd rhy isel yn y gwyllt i gynhyrchu epil newydd a sicrhau adferiad naturiol yn y boblogaeth - mae'n annhebygol y bydd y rhywogaeth yn gwella heb ymyrraeth.

Gan weithio gyda thîm o wyddonwyr morol ac arbenigwyr dyframaethu, gan gynnwys busnes ffermio wystrys lleol (ABPmer, Aquafish Solutions, Aquatic Survey and Monitoring ac Atlantic Edge Oysters), mae CNC wedi cyflwyno wystrys ifanc a deunydd cregyn glân mewn cyfres o dreialon dros sawl tir wystrys hanesyddol.

Bydd yr ardaloedd yn cael eu monitro i wirio bod wystrys yn goroesi, yn tyfu ac a oes tystiolaeth o atgenhedlu.

Dywedodd Ben Wray, Rheolwr Prosiect ac ecolegydd morol yn CNC:

“Mae adfer wystrys brodorol a’r cynefin cysylltiedig yng Nghymru yn hynod bwysig. Mae'n gwella cyflwr yr ardal gyfagos ac mae'n wych i'r amgylchedd ehangach sydd o fudd i bobl hefyd. Rydyn ni'n obeithiol iawn y bydd y prosiect yn llwyddiant - mae'r wystrys brodorol yn rhywogaeth sydd dan fygythiad ac yn dirywio. Ac mae'n brif flaenoriaeth ar gyfer adfer bioamrywiaeth yng Nghymru.

“Rydym yn defnyddio cynefinoedd wystrys presennol a blaenorol yn nyfrffordd Aberdaugleddau i brofi a yw'n bosibl cyflwyno wystrys brodorol i roi hwb i'r boblogaeth. Hyd yn hyn, rydym wedi cyflwyno tua 25,000 o wystrys ifanc yn yr aber a byddwn yn monitro sut maent yn symud ymlaen. Os bydd y prosiect yn llwyddiannus, gellid cyflwyno wystrys ar raddfa fwy ac ar draws safleoedd ychwanegol”.

Dywedodd Dr Andrew Woolmer o Atlantic Edge Oysters:

“Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r gwaith adfer pwysig hwn yn aber Aberdaugleddau trwy gyflenwi’r wystrys brodorol i’w ailstocio.

Mae wedi bod yn heriol, ond rydym wedi gweithio'n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu technegau newydd i'w cynhyrchu.

“Mae wystrys brodorol yn rhan bwysig o’r ecosystem, yn ogystal â threftadaeth y ddyfrffordd ac rydym yn falch o chwarae rhan yn eu hadferiad.”

Darparodd Llywodraeth Cymru a WEFO gyllid ar gyfer y prosiect cadwraeth pwysig.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r ymdrech gadwraeth hon mewn cynefinoedd wystrys yng Nghymru, a fydd yn helpu i wella iechyd a gwytnwch ein hecosystemau morol.

“Mae ein Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardal Morol Gwarchodedig (MPA) yn nodi sut y byddwn yn parhau i wella rheolaeth ac ansawdd mewn MPAs ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf, gan chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion i wella gwytnwch ein cynefinoedd morol a bioamrywiaeth.”

Bydd monitro'r prosiect adfer wystrys brodorol yn digwydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y canlyniadau'n cael eu dadansoddi a'u harchwilio erbyn Mawrth 2023.

Os byddant yn llwyddiannus, bydd CNC yn edrych i weithio gyda sefydliadau eraill i ailgyflwyno wystrys brodorol ledled Cymru.

DIWEDD

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru