Cyfoeth Naturiol Cymru’n llwyddo i erlyn Persimmon Homes ar ôl iddo lygru afon

Collapsed Silt Netting And Displaced Straw Bale

Mae Persimmon Homes wedi cael dirwy o £433,331 ar ôl methu rhoi mesurau priodol ar waith i rwystro nifer o ddigwyddiadau llygredd a effeithiodd ar Afon Gafenni yn Sir Fynwy, De Cymru yn 2019.

Plediodd y cwmni adeiladu tai yn euog i gyhuddiadau o dorri Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn Llys Ynadon Casnewydd yn gynharach heddiw (6 Ionawr 2022).

Cafwyd 7 digwyddiad llygredd i gyd, a achoswyd gan weithgareddau gollwng dŵr anghyfreithlon ar safle datblygu Willow Court yn Y Fenni rhwng 11 Chwefror a 11 Tachwedd 2019.

Digwyddodd trosedd llygredd arall ar 2 Chwefror 2021.

Datgelodd archwiliadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygrydd wedi’i achosi bob tro gan ddŵr ffo o’r safle, a oedd wedi cael ei halogi gan silt.

Dangosodd samplau o ddŵr o Afon Gafenni a gafodd eu dadansoddi gan swyddogion CNC fod lefelau sylweddol o solidau mewn daliant (gronynnau solid mân sy’n parhau yng nghrog yn y dŵr) yn y cwrs dŵr. Gall hyn effeithio’n negyddol ar bysgod ac infertebratau eraill, gan gau eu tagellau a lleihau lefel y golau sy’n treiddio i’r dŵr.

Er nad oedd unrhyw dystiolaeth fod pysgod wedi cael eu lladd yn Afon Gafenni, byddai’r silt wedi cael effaith niweidiol ar fywyd dyfrol yr afon.

Cyfarfu swyddogion CNC a rheolwyr Persimmon Homes ar y safle ym mis Mawrth 2019 i drafod y mesurau ataliol oedd eu hangen i sicrhau cyn lleied o lygredd ag oedd bosibl.

Roedd hyn yn cynnwys chwistrellu dŵr i olchi’r silt oddi ar y ffordd ac yn ôl tuag at y safle a chloddio ffos ar draws y fynedfa, lle gellid gosod sypiau o gerrig a gwellt glân i amsugno unrhyw ddŵr ffo silt.

Er bod y ffos i ddechrau wedi atal llif uniongyrchol o ddŵr halogedig, ni chafodd mesurau lliniaru ychwanegol eu gweithredu, gan gynnwys cloddio rhagor o ffosydd, cau mynedfa’r safle i draffig, a chofnodi archwiliadau mesurau llygredd yn effeithiol.

Ni wnaed gwaith cynnal a chadw ychwaith i rwyd atal silt mewn gollyngfa i Afon Gafenni, oedd wedi ei gosod yno er mwyn rhwystro silt rhag mynd i mewn i’r afon.

Meddai Anthony Bruten, Swyddog Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith i helpu i ddiogelu pobl, bywyd gwyllt, ein hafonydd a'n tir.
Mae gan y diwydiant adeiladu ddyletswydd gofal i'r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu, i sicrhau bod mesurau rheoli a diogelu cywir ar waith er mwyn atal digwyddiadau fel y rhain.
 Yn yr achos hwn, roedd methiant Persimmon Homes i drefnu dulliau lliniaru addas yn golygu bod dŵr ffo silt oedd yn llifo o'r safle yn dal i gael effaith negyddol ar y cyrsiau dŵr cyfagos ac Afon Gafenni dros gyfnod o 10 mis.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn anfon neges glir fod angen cymryd deddfwriaeth amgylcheddol o ddifrif. Ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau priodol yn erbyn y rhai sy'n diystyru rheoliadau ac sy’n peryglu'r amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn ei adnabod a'i garu.

Cafodd Persimmon Homes ddirwy o £53,000 fesul trosedd, yn ogystal â gorchymyn i dalu costau CNC sef £9,161 a gordal dioddefwyr o £170, gan arwain at gyfanswm o £433,331.

Er mwyn rhoi gwybod am lygredd ffoniwch linell gymorth 24 awr CNC - 0300 065 3000 neu rhowch wybod inni ar lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol