Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhyddhau rhagor o ddŵr i leihau’r risg o farwolaeth i bysgod

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhyddhau rhagor o ddŵr i’r Afon Dyfrdwy yn ddiweddar i leihau’r risg o farwolaeth i bysgod yn ystod y tymheredd eithriadol a brofwyd ledled Cymru.

Am 10am ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf, cynyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyfaint y dŵr a oedd yn cael ei ryddhau o Lyn Tegid i Afon Dyfrdwy gan 2m3/e – cynnydd o 30% yn y llif. Cafodd y cynnydd hwn ei amseru i gyrraedd y sianel i lawr yr afon o Gored Caer fore Llun pan oedd tymheredd uchel yn y rhagolygon tywydd.

Daeth y dŵr ychwanegol o’r storfa ddyrannu arbennig, a ddefnyddir er budd yr amgylchedd fel rhan o Gynllun Rheoleiddio’r Ddyfrdwy.

O ganlyniad i’r penderfyniad hwn gan Swyddogion CNC, roedd cyfaint y dŵr a oedd yn llifo i’r sianel yn fwy na dwbl yr hyn a fyddai wedi digwydd yn naturiol. Llwyddodd y penderfyniad i leihau effaith lefelau dŵr isel a thymheredd uchel ar y stoc bysgod leol.

Meddai Richard Pierce, Uwch Swyddog Pysgodfeydd ar ran CNC:

“Gall y tywydd sych a welwyd yn ddiweddar arwain at lefelau dŵr isel sy’n gallu effeithio ar iechyd y stoc bysgod, gan ostwng lefelau ocsigen a gwneud y pysgod yn fwy agored i glefydau ac ysglyfaethwyr
“Er mwyn lleihau’r perygl o bysgod yn marw a lleddfu effaith y tywydd poeth, fe wnaethom ni benderfynu gollwng rhagor o ddŵr i’r Afon Dyfrdwy. Hoffem ddiolch i bawb am eu cydweithrediad.”

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad ynghylch pysgodfeydd, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Pysgodfeydd (naturalresources.wales)

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Rheoleiddio’r Ddyfrdwy, ewch i:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun Rheoleiddio'r Ddyfrdwy (naturalresources.wales)