Arbenigwyr tirwedd yn cael cydnabyddiaeth swyddogol

Carole Rothwell a Jill Bullen

Mae dau o arbenigwyr tirwedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad eithriadol i'w proffesiwn drwy gael eu gwneud yn Gymrodyr yn y Sefydliad Tirwedd.

Cyflwynwyd tystysgrifau i Jill Bullen o Aberystwyth a Carole Rothwell o Fangor mewn seremoni raddio gan y Sefydliad Tirwedd ar 4 Mawrth 2020, yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon yn Llundain.

Cymrodoriaeth yw gradd aelodaeth uchaf y Sefydliad Tirwedd ac mae'n cydnabod y safonau proffesiynol y maen nhw wedi'u cyflawni a'u cyfraniad fel llysgenhadon, arweinwyr a delfrydau ym maes tirwedd.

Mae Jill a Carole hefyd wedi ymuno â Fforwm Arweinyddiaeth Rheoli Tirwedd y Sefydliad Tirwedd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i arddangos mwy o’r gwaith y maen nhw’n ei wneud ar gyfer CNC i weithwyr proffesiynol cydnabyddedig eraill ym maes tirwedd, ac mae’n galluogi iddynt ddod â gwybodaeth yn ôl am arfer gorau gan arweinwyr tirwedd eraill.

Dywedodd Carole:

"Rwy'n falch iawn o gael cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Tirwedd am fy mhrofiad, fy arbenigedd a'm cyfraniad at waith yn ymwneud â thirwedd. Cawson ni ddiwrnod hyfryd yn y seremoni raddio a chawson ni ein tystysgrifau graddio gan Adam White, Llywydd y Sefydliad Tirwedd.
Fel arbenigwr ym maes tirwedd, rwy'n darparu cyngor ar dirwedd ar gyfer rheoli ystâd CNC ei hun. Fel partner, addysgwr a chyfathrebwr, rwy'n gweithio ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, tirweddau dynodedig, y sector cyhoeddus a sefydliadau anllywodraethol.

Ychwanegodd Jill:

"Dwi hefyd wrth fy modd o ddod yn Gymrawd yn y Sefydliad Tirwedd a dwi’n edrych ymlaen at gyfleoedd pellach i ennyn diddordeb ac ysbrydoli eraill. Mae'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn hanfodol i sicrhau atebion rheoli tir integredig, yn enwedig mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a datblygu cydnerthedd ecosystemau."
"Rwy'n coladu, dadansoddi a darparu'r sylfaen dystiolaeth ar dirwedd er mwyn gallu rheoli tir, llunio polisïau a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae canlyniad ein gwaith yn cefnogi cynllunio penderfyniadau."

Mae gwaith Jill hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio tirwedd fel dull cyfathrebu pwysig i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o beryglon a chyfleoedd newid yn yr hinsawdd o ran y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys addasu i newid yn yr hinsawdd.